Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud y defnydd gorau posibl o'r cyfle a gyflwynir gan feddyginiaethau biodebyg – Strategaeth Genedlaethol i Gymru

Mae marchnad gref ar gyfer meddyginiaethau biodebyg yn cymell cystadleuaeth fasnachol ac yn cynnig mwy o ddewis o driniaethau biolegol fforddiadwy.

Ar draws y GIG, mae’r galw am feddyginiaethau cost uchel sy’n addasu clefydau yn cynyddu. Mae’r gystadleuaeth yn y farchnad meddyginiaethau biolegol a ddaw yn sgil mynediad meddyginiaethau biodebyg yn ysgogi arloesedd ac yn annog pob gweithgynhyrchydd i gynyddu gwerth eu cynnig i’r GIG. Mae mabwysiadu cynnar a defnydd eang o feddyginiaethau biolegol sy’n cynnig gwell gwerth i’r GIG yn rhyddhau adnoddau fel bod llawer mwy o gleifion yn elwa ar ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau a gwell mynediad at therapïau arloesol mwy newydd.

Mae’r strategaeth hon yn nodi’r camau y bydd y GIG a’i bartneriaid yng Nghymru yn eu cymryd i gefnogi’r amodau sydd eu hangen i greu marchnad meddyginiaethau biolegol a biodebyg gref a chystadleuol yn y DU er budd y GIG, cleifion ac economi Cymru.

⇩ Maximising the opportunity presented by biosimilar medicines -  A national strategy for Wales (Saesneg yn unig) 355KB (PDF)

(Cyhoeddwyd Ionawr 2023)

Dilynwch AWTTC: