Neidio i'r prif gynnwy

Datgarboneiddio: rhagnodi, defnyddio a gwaredu anadlydd 2023–2030. Strategaeth genedlaethol i Gymru

Mae’r ddogfen hon yn nodi strategaeth genedlaethol i leihau ôl troed carbon anadlyddion yng Nghymru, ac yn amlinellu’r camau allweddol i’r GIG a’i bartneriaid yng Nghymru i:

  • leihau gorddibyniaeth ar anadlyddion lliniaru;
  • lleihau’r defnydd o anadlyddion sydd â photensial uchel ar gyfer cynhesu byd-eang; a
  • sicrhau bod anadlyddion yn cael eu gwaredu’n gyfrifol.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gydlynu a goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r strategaeth. 

Gall GIG Cymru leihau ei ôl troed carbon a chyfrannu at gyflawni sero net cyfunol erbyn 2030 drwy newid sut y mae cyflyrau anadlol yn cael eu diagnosio, a sut y caiff anadlyddion eu presgripsiynu, eu defnyddio a’u gwaredu mewn gofal sylfaenol.

Mae’r strategaeth yn cynnwys cydweithio â chleifion a’r cyhoedd, llunwyr polisi, y diwydiant fferyllol a staff gofal iechyd, a defnyddio dull cyfannol sy’n canolbwyntio ar y claf ar gyfer gofal anadlol – o ddiagnosis i waredu anadlyddion. Mae’r ddogfen yn rhestru’r 12 cam gweithredu gorau i gyflawni’r strategaeth.

Decarbonisation: inhaler prescribing, use and disposal 2023-2030. A national strategy for Wales (Saesneg yn unig) 192KB (PDF)

(Cyhoeddwyd Tachwedd 2023)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA).

Dilynwch AWTTC: