Neidio i'r prif gynnwy

Cofnod Gweinyddu Meddyginiaeth mewn Ysbytai - Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK)

Gyda datblygiad wedi’i gefnogi gan Fwrdd Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMRDB) Cymru, mae’r Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK) i’w ddefnyddio ym mhob lleoliad gofal eilaidd ar gyfer cleifion aciwt mewn ysbytai yng Nghymru, gan ddarparu templed cyson ar gyfer adolygu presgripsiynu gwrthfiotigau.

Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r siart wedi’i rhoi ar waith yn dilyn canlyniadau astudiaeth y Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK). Pecyn cymorth newid ymddygiad stiwardiaeth gwrthficrobaidd yw ARK, sy’n seiliedig ar egwyddorion Start Smart Then Focus (SSTF) a’i nod yw gwella adolygiad o wrthfiotigau gan 72 awr, ac atal neu ddiwygio triniaeth.

Cafodd Cofnod Gweinyddu Meddyginiaeth mewn Ysbytai - Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK) ei Gydnabod gan AWMSG fel arfer da yn GIG Cymru.

Gellir gweld fersiwn sampl o’r cofnod gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol:

⇩ Antibiotic Review Kit (ARK) Hospital Medication Administration Record (Saesneg yn unig) 839KB (PDF)

(Cydnabyddwyd gan AWMSG: Medi 2022)

Dilynwch AWTTC: