Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau cydnabyddedig

Nod proses Gydnabod AWMSG yw amlygu’r adnoddau, mentrau neu ymgyrchoedd sydd eisoes wedi’u cydnabod neu eu cymeradwyo gan gorff neu sefydliad cenedlaethol ac sydd wedi eu rhoi ar waith neu eu derbyn fel arfer da o fewn GIG Cymru. 

Mae adnoddau cydnabyddedig yn cefnogi’r argymhellion yn Strategaeth Meddyginiaethau bresennol AWMSG, neu fe’u hystyrir yn sylweddol berthnasol ar gyfer optimeiddio meddyginiaethau yng Nghymru.

Sylwer

  • Nid yw’r adnoddau hyn wedi bod drwy broses Gymeradwyo AWMSG (AWPAG neu adolygiad gan gymheiriaid, ymgynghoriad a golygu), felly nid ydynt yn ganllawiau ffurfiol AWMSG.
  • Awdur yr adnodd sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynnwys yn gywir pan y’i cyhoeddir, a’i fod yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n briodol.
  • Rhaid trafod unrhyw broblemau ynglŷn â’r cynnwys gyda’r awdur gan gopïo AWTTC yn yr ohebiaeth.

Adnoddau cydnabyddedig cyfredol

 

Adnoddau Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT) (Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser)

Un o brif nodau arweinwyr Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT) y Rhwydwaith Canser yw cynhyrchu un set o brotocolau a chanllawiau ategol ar gyfer Cymru Gyfan, a all ysgogi’r gwaith o gysoni arfer ledled Cymru a hwyluso’r gwaith o symud i un system eBresgripsiynu SACT.

Mae adnoddau SACT a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Canser ar gael drwy wefan Y Weithrediaeth GIG Cymru. Mae AWMSG wedi cydnabod yr adnodd canlynol fel enghraifft o arfer da:

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Tachwedd 2023

 

Proffil Adwaith Niweidiol i Gyffuriau (ADRe)

Mae pryder ar hyn o bryd ynghylch y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig, a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n briodol ac yn ddiogel. Mae defnyddio offeryn asesu cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gefnogi’r gwaith o ragnodi’r meddyginiaethau hyn wedi’i argymell. Mae'r proffil Adwaith Niweidiol i Gyffuriau (ADRe) wedi'i ddatblygu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i nodi adweithiau niweidiol a phrofwyd ei fod yn lleihau'r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig.

Rhagor o wybodaeth:

Mae'n bwysig nodi nad yw defnyddio ADRe yn golygu nad oes angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol neu gleifion roi gwybod am unrhyw effeithiau niweidiol a gafwyd o ganlyniad i feddyginiaethau drwy'r Cynllun Cerdyn Melyn.

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Ebril 2023

 

Cofnod Gweinyddu Meddyginiaeth mew Ysbytai -Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK)

Gyda datblygiad wedi’i gefnogi gan Fwrdd Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMRDB) Cymru, mae’r Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK) i’w ddefnyddio ym mhob lleoliad gofal eilaidd ar gyfer cleifion aciwt mewn ysbytai yng Nghymru, gan ddarparu templed cyson ar gyfer adolygu presgripsiynu gwrthfiotigau.

Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r siart wedi’i rhoi ar waith yn dilyn canlyniadau astudiaeth y Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK). Pecyn cymorth newid ymddygiad stiwardiaeth gwrthficrobaidd yw ARK, sy’n seiliedig ar egwyddorion Start Smart Then Focus (SSTF) a’i nod yw gwella adolygiad o wrthfiotigau gan 72 awr, ac atal neu ddiwygio triniaeth.

Gweld fersiwn sampl o’r cofnod:

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Medi 2022

 

Canllawiau Llid yr Isgroen ar gyfer Pobl â Lymffoedema/Oedema Cronig yn GIG Cymru

Mae canllawiau newydd sy’n rhoi argymhellion seiliedig ar dystiolaeth ar reoli llid yr isgroen ar gyfer pobl â lymffoedema/oedema cronig wedi’u datblygu a’u cyhoeddi gan Rwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru. Mae’r canllaw yn cynnwys cyngor ar ddiagnosis a fflagiau coch, llwybrau gwrthfiotig a chynllun rheoli.

Mae’r ddogfen wedi’i chymeradwyo gan Fwrdd Strategaeth Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru, Rhaglen Genedlaethol Gwella Lymffoedema Llid yr Isgroen (NLCIP) a Grŵp Canllawiau Gwrthficrobaidd Cymru Gyfan (AWAGG).

Darganfod mwy (Sylwer: mae’r canllaw hwn ar gael ar hyn o bryd dim ond i staff o fewn GIG Cymru trwy Microsoft SharePoint):

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Rhagfyr 2021

 

Methiant y Galon yng Nghymru — Dull Cyfochrog

Wedi’i gynhyrchu gan y Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Fethiant y Galon, mae’r canllaw hwn ar gyfer optimeiddio triniaeth methiant y galon sydd â ffracsiwn alldafliad llai yn canolbwyntio ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael i hybu cychwyn pedwar grŵp o feddyginiaethau, y mae gan pob un ohonynt fuddion cynnar sylweddol o ran marwolaethau ac afiachedd. Mae’r pedwar grŵp meddyginiaeth yn cynnwys: beta-atalyddion; gwrthweithyddion derbynnydd mwynocorticoid; atalyddion neprilysin derbynnydd angiotensin; ac atalyddion cotransporter-2 sodiwm-glwcos. Mae’r canllaw hwn yn annog optimeiddiad cyflym dosau o feddyginiaethau gan arwain at y lleiaf posibl o ymweliadau ar gyfer cleifion, ac felly’n rhoi gwell gwerth i gleifion a GIG Cymru drwy well canlyniadau ac arbedion effeithlonrwydd.

Rhagor o wybodaeth (Sylwer: mae’r canllaw hwn ar gael ar hyn o bryd dim ond i staff o fewn GIG Cymru, ac efallai y bydd angen cyflwyno cais am fynediad): Methiant y Galon yng Nghymru – Dull Cyfochrog

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Rhagfyr 2021

 

Gorchuddion Clwyfau Gwrthficrobaidd (AWDs) — Datganiad, Argymhellion a Chanllawiau (Bwrdd Caffael Seiliedig ar Dystiolaeth)

Mae'r Bwrdd Caffael Seiliedig ar Dystiolaeth (EBPB) yn gwneud argymhellion ac yn cynhyrchu canllawiau ar gyfer caffael technolegau meddygol ar gyfer GIG Cymru sy’n seiliedig ar werth a thystiolaeth, gan gynorthwyo â’r agenda rhesymoli a safoni yn unol ag egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus, a chaiff ei ategu gan yr athroniaeth “Unwaith i Gymru”.

Yn 2021, diweddarodd EBPB eu hargymhellion ar ddefnyddio gorchuddion clwyfau gwrthficrobaidd (AWDs) ar gyfer GIG Cymru, sydd wedi cael eu mabwysiadu ers hynny gan nyrsys Hyfywedd Meinwe, grŵp rheoli clwyfau caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), a'r rhan fwyaf o grwpiau llyfr fformiwlâu ar draws GIG Cymru.

Rhagor o wybodaeth: Gorchuddion Clwyfau Gwrthficrobaidd (AWDs) — Datganiad, Argymhellion a Chanllawiau

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Rhagfyr 2021

 

Defnyddio Crynodiadau Safonol Meddyginiaethau Hylifol Didrwydded mewn Plant – datganiad sefyllfa ar y cyd gan NPPG a RCPCH

Mae’r Grŵp Fferyllwyr Newyddenedigol a Pediatrig (NPPG) a Choleg Brenhinol y Pediatryddion ac Iechyd Plant (RCPCH) wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa sy’n argymell yn gryf pan fydd plant angen meddyginiaethau hylifol didrwydded y dylent dderbyn y cryfder a argymhellir gan RCPCH a NPPG, pan fo hynny’n bodoli.

Drwy safoni’r cryfderau presgripsiynu y meddyginiaethau hyn, bydd y canllaw’n lleihau’r perygl bod gwallau’n cael eu gwneud yn y dosau a roddir i blant ac yn atal gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd tan-ddosio neu gor-ddosio damweiniol.

Rhagor o wybodaeth: Defnyddio Crynodiadau Safonol Meddyginiaethau Hylifol Didrwydded mewn Plant

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Medi 2020

 

Egwyddorion Arweiniol Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Meddyginiaethau yn y Sector Gofal Cartref

Datblygwyd yr egwyddorion hyn gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) Cymru Cyf mewn partneriaeth â Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion Cymru Gyfan (AWASH) a GIG Cymru, i ddarparu templed ar gyfer datblygu polisïau meddyginiaethau fel bod cymorth ar feddyginiaethau yn cael ei ddarparu mewn modd cyson ledled Cymru.

Cefnogir a chymeradwyir y gwaith hwn fel arfer da gan y sefydliadau canlynol:

  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
  • Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Rhagor o wybodaeth: Egwyddorion Arweiniol Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Meddyginiaethau yn y Sector Cartref

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Chwefror 2020

 

Gwneud Dewisiadau Gyda'n Gilydd

Mudiad i annog sgyrsiau agored rhwng cleifion a’u clinigwyr yw Gwneud Dewisiadau Gyda’n Gilydd er mwyn gwneud penderfyniadau ar y cyd ynglŷn â’r gofal cywir ar gyfer y claf wedi’i lywio gan dystiolaeth dda ac sy’n ymatebol i anghenion a dymuniadau’r claf.

Rhagor o wybodaeth: Gwneud Dewisiadau Gyda'n Gilydd (harchifo)

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Chwefror 2019

 

Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd

Mae’r ymgyrch Eich Medddyginiaethau Eich Iechyd yn darparu rhaglen addysg y cyhoedd ynglŷn â manteision defnyddio, storio a gwaredu meddyginiaethau yn ddiogel ac effeithiol.

Mae'r ymgyrch Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd yn canolbwyntio ar hysbysebu a deunydd hyrwyddo, sgyrsiau personol a chyflwyniadau, gan ddefnyddio negeseuon syml a rhoi camau hawdd y gall pobl eu cymryd i wella eu rheolaeth ar feddyginiaethau

Rhagor o wybodaeth: Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd

Cydnabyddwyd gan AWMSG: Chwefror 2019

 

Dilynwch AWTTC: