Neidio i'r prif gynnwy

Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2022-2025

Chwefror 2023: Wrth symud tuag at adolygu Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol bob tair blynedd, mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cytuno y bydd y Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol y cytunwyd arnynt ar gyfer 2022-2023 yn cael eu hymestyn am ddwy flynedd ychwanegol ac yn dod yn Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol ar gyfer 2022-2025. Bydd y ddogfen Manylebau NPI sy'n amlinellu trothwyon a thargedau ar gyfer y dangosyddion yn parhau i gael ei diweddaru bob blwyddyn a bydd ar gael isod.

Mae dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol yn dangos sut y mae’r gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru yn presgripsiynu meddyginiaethau penodol, ac yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau mewn patrymau presgripsiynu.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, presgripsiynu rhesymegol yw sicrhau bod cleifion yn derbyn y meddyginiaethau cywir ar eu cyfer, y dosau cywir am yr amser cywir, ac am y gost isaf i gleifion a’u cymuned.

Datblygir dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol i hyrwyddo presgripsiynu meddyginiaethau rhesymegol yng Nghymru. Mae’r dewis o ddangosyddion yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’r dangosyddion wedi’u cynllunio i fod yn glir ac yn hawdd i bresgripsiynwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu deall.

Mae’r dangosyddion yn caniatáu i fyrddau iechyd, clystyrau gofal sylfaenol, practisau meddygon teulu a presgripsiynwyr gymharu eu harfer presgripsiynu presennol yn erbyn safon ansawdd a gytunir.

Ar gyfer 2022-2025, mae’r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol: Cefnogi Presgripsiynu Diogel wedi’i Optimeiddio yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol:

  • Poenleddfwyr (yn cynnwys opioid, tramadol, a gabapentin a pregabalin)
  • Gwrthgeulyddion ar gyfer ffibriliad atrïaidd
  • Stiwardiaeth gwrthficrobaidd (yn cynnwys eitemau gwrthficrobaidd cyflawn a ‘gwrthficrobyddion 4C’: co-amoxiclav, cephalosporins, fluoroquinolones a clindamycin)
  • Datgarboneiddio mewnanadlyddion

Cefnogir y pedwar maes blaenoriaeth hyn gan ddangosyddion ychwanegol:

  • Diogelwch
    • Dangosyddion diogelwch presgripsiynu
    • Hypnoteg a lleihau gorbryder
    • Cardiau Melyn
  • Effeithlonrwydd
    • Meddyginiaethau biolegol gwerth gorau
    • Gwerth isel ar gyfer presgripsiynu
National Prescribing Indicators 2022–2025: Supporting Safe and Optimised Prescribing 2,696KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Ionawr 2022 - Diweddarwyd hydref2023)

Adnoddau cysylltiedig:

⇩ National Prescribing Indicators 2023–2024: Specifications 429KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Mehefin 2023 - Diweddarwyd Medi 2023)

⇩ National Prescribing Indicators 2022–2025: Supporting Information for Prescribers and Healthcare Professionals 465KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Chwerfror 2022 - Diweddarwyd Hydref 2023)

⇩ Appendix – Anticholinergic effect on cognition score 21KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Ionawr 2022)

18/04/24
Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2023-2024: Adroddiadau chwarterol

Mae Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) ar gyfer 2022-2025 yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth a gefnogir gan barthau diogelwch ac effeithlonrwydd ychwanegol.

Bob chwarter blwyddyn llunnir adroddiad yn dadansoddi perfformiad pob bwrdd iechyd yn erbyn y set bresennol o NPIs.

04/12/23
Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2022-2023: Adroddiadau chwarterol

Mae Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) ar gyfer 2022-2025 yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth a gefnogir gan barthau diogelwch ac effeithlonrwydd ychwanegol.

Bob chwarter blwyddyn llunnir adroddiad yn dadansoddi perfformiad pob bwrdd iechyd yn erbyn y set bresennol o NPIs.

Dilynwch AWTTC: