Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cytuno y dylai proses adolygu a diweddaru’r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol newid o bob blwyddyn i bob tair blynedd. Bydd y newid hwn yn galluogi byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau tymor hwy ar gyfer defnyddio’r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol, drwy roi sicrwydd y bydd dangosyddion yn weithredol am o leiaf tair blynedd.
Daw’r newid hwn i rym ar unwaith, gyda’r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol y cytunwyd arnynt ar gyfer 2022-2023 yn cael eu hymestyn am ddwy flynedd ychwanegol a dod yn Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol ar gyfer 2022-2025.
Er na fydd y dangosyddion yn cael eu diweddaru’n flynyddol fel mater o drefn mwyach, bydd trothwyon a thargedau ar gyfer dangosyddion yn parhau i gael eu diweddaru bob blwyddyn. Bydd gwybodaeth am y trothwyon a’r targedau wedi’u diweddaru i’w gweld yn y ddogfen Manylebau Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol sydd ar gael ar wefan AWTTC.
Er gwaethaf y newidiadau hyn, mae’r broses yn ymgorffori’r gallu i ddangosyddion unigol gael eu hychwanegu, eu diweddaru neu eu tynnu (er enghraifft, yn seiliedig ar dystiolaeth newydd, pryderon ynghylch diogelwch, neu ddiweddariadau i ganllawiau cysylltiedig) y tu allan i’r cylch tair blynedd a heb fod angen adolygu’r gyfres gyfan o Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol.