Nod y ddogfen hon yw hysbysu ac arwain staff gofal iechyd yn GIG Cymru ynglŷn â sut i ddechrau therapi disodli nicotin (NRT) er mwyn rheoli ddiddyfnu nicotin ymhlith oedolion sy’n ysmygu ac sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty (gofal eilaidd). Mae’r ddogfen yn ymdrin â chefnogi cleifion sy’n dymuno dechrau ar ymgais i roi’r gorau i ysmygu; cleifion sydd ddim eisiau dechrau ar ymgais i roi’r gorau i ysmygu ond sydd am gael NRT er mwyn rheoli diddyfnu nicotin tra eu bod yn yr ysbyty; yn ogystal â chleifion allanol, teulu a ffrindiau cleifion, a staff ysbytai.
Mae’r ddogfen hon yn diffinio rolau a chyfrifoldebau staff gofal iechyd (nyrsys, meddygon, fferyllwyr ac ymarferwyr rhoi’r gorau i ysmygu) ar adeg derbyn i’r ysbyty, yn ystod arhosiad claf mewnol ac ar adeg rhyddhau’r claf o’r ysbyty. Mae’n disgrifio asesiad cychwynnol a phresgripsiynu NRT, presgripsiynu cynhyrchion NRT “yn ôl y galw” ychwanegol, a darparu cefnogaeth a chyngor ychwanegol i gleifion. Mae hefyd yn crynhoi’r hyfforddiant sydd ar gael i staff gofal iechyd. Bwriedir i’r ddogfen gael ei defnyddio ynghyd â Chanllaw Cymru Gyfan: Ffarmacotherapi ar gyfer Rhoi'r Gorau i Ysmygu a gymeradwyir gan AWMSG.
⇩ Initial Clinical Management of Adult Smokers in Secondary Care (Saesneg yn unig) 480KB (PDF) |
(Cyhoeddwyd Mehefin 2021)
Adnodd ategol - Canllaw byr i wardiau
Mae dogfen 'Mynediad i gleifion at NRT tra yn yr ysbyty - Canllaw byr i wardiau' wedi’i chynhyrchu hefyd, sy’n cynnwys argymhellion allweddol o'r prif ganllawiau. Darperir hwn fel templed dogfen Word, a gellir ei addasu yn ôl anghenion safleoedd ysbytai unigol.
⇩ Patient access to nicotine replacement treatment (NRT) while in hospital - Brief guide (Saesneg yn unig) 191KB (Dogfen Word) |
(Cyhoeddwyd Mehefin 2021)