Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd polisi Cymru Gyfan ar gyfer Gweinyddu, Cofnodi, Adolygu, Storio a Gwaredu Meddyginiaethau (MARRS)

Cyhoeddwyd polisi Cymru Gyfan ar gyfer Gweinyddu, Cofnodi, Adolygu, Storio a Gwaredu Meddyginiaethau (MARRS) am y tro cyntaf yn 2015 mewn ymateb i faterion ymarfer meddyginiaethau a nodwyd yn yr adroddiad Ymddiried mewn Gofal  a gyhoeddwyd yn 2014. Mae'r polisi MARRS wedi'i ddiweddaru yn sicrhau bod ymarfer yn cyd-fynd â newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau rheoli meddyginiaethau. Mae’r ddogfen yn fframwaith o safonau y mae’n rhaid i weithwyr gofal iechyd, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru eu gweithredu drwy weithdrefnau lleol.

Mae’r polisi MARRS yn nodi’r safonau ymarfer gofynnol y mae’n rhaid eu mabwysiadu gan yr holl staff gofal iechyd sy’n ymwneud â gweinyddu (gan gynnwys cefnogi prosesau hunan-weinyddu cleifion/defnyddwyr gwasanaethau) cofnodi, adolygu, storio a gwaredu meddyginiaethau mewn sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru. Mae’r polisi MARRS yn berthnasol i bob sefydliad sy’n darparu gofal iechyd y GIG ac annibynnol (fel byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, practisau cyffredinol ac ysbytai/clinigau preifat). Bydd gweithredu’r safonau hyn yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gofal o ansawdd uchel ac yn sicrhau diogelwch cleifion drwy gyflwyno cysondeb wrth reoli meddyginiaethau ar draws pob sector gofal iechyd yng Nghymru.

⇩ All Wales policy for Medicines Administration, Recording, Review, Storage and Disposal 228KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Ebrill 2024)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

All Wales policy for Medicines Adminstration, Recording, Review, Storage and Disposal - Equality Impact and Assessment form 151KB (PDF) (Saesneg yn unig) 

 


 
Dilynwch AWTTC: