Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau rhagnodi

Canllawiau Cymru gyfan i gefnogi rheoli meddyginiaethau integredig mewn lleoliadau cymunedol
29/10/25

Nod y canllawiau hyn yw sicrhau bod pob person mewn gofal cymunedol yng Nghymru yn derbyn y safon uchaf o ran rheoli meddyginiaethau, wedi'i deilwra i'w hanghenion penodol.

Triniaethau inswlin amgen y gellir eu defnyddio yn lle inswlin detemir
29/10/25

Mae cynhyrchion inswlin detemir yn cael eu rhoi’r gorau i’w cynhyrchu; rhagwelir y bydd y stoc wedi dod i ben erbyn diwedd 2026. Mae’r ddogfen hon yn rhestru cynhyrchion inswlin amgen posibl.

Canllawiau rheoli a phresgripsiynu COPD Cymru Gyfan
02/10/25

Nod y canllaw hwn yw lleihau amrywiaeth wrth bresgripsiynu anadlyddion i reoli clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac annog ystyriaeth o agenda datgarboneiddio GIG Cymru.

Rheoli endocrin anghydweddiad rhywedd mewn oedolion
01/10/25

Mae’r ddogfen canllawiau presgripsiynu hon at ddefnydd ymarferwyr nad ydynt yn arbenigwyr sy’n cefnogi’r gwaith o bresgripsiynu a monitro therapïau meddygol a ddefnyddir i reoli anghydweddiad rhywedd mewn oedolion (dros 18 oed).

Dilemâu presgripsiynu: Canllaw i bresgripsiynwyr
01/10/25

Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllaw i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â hyd presgripsiynu, bwydydd, meddyginiaethau cyflenwol a therapïau amgen, anhwylderau cyffredin, triniaeth ffrwythlondeb, diffyg ymgodol, presgripsiynu ar gyfer yr hunan a'r teulu, ymwelwyr o dramor, brechlynnau teithio ac iechyd galwedigaethol, sefyllfaoedd presgripsiynu nad ydynt yn dod o dan y GIG, yn cynnwys gofal preifat a phresgripsiynau preifat, meddyginiaethau didrwydded a phresgripsiynu y tu allan i ganllawiau cenedlaethol.

Llyfr fformiwlâu Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin Cymru Gyfan
01/10/25

Nod y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yw gwella mynediad cleifion at gyngor cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli anhwylderau cyffredin. Mae'r ddogfen hon yn cynnwys monograffau ar gyfer pob un o'r anhwylderau a gwmpesir gan y gwasanaeth.

Fframwaith Gofal a Rennir Cymru Gyfan
26/08/25

Nod y ddogfen hon yw sicrhau cysondeb mewn gofal a rennir ledled Cymru o ran egwyddorion, cymhwysiad datblygu ac adolygu trefniadau gofal a rennir, a defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y claf ar gyfer gofal a rennir.

Canllawiau rheoli a phresgripsiynu asthma oedolion Cymru Gyfan
01/08/25

Nod y canllaw hwn yw lleihau amrywiaeth wrth bresgripsiynu anadlyddion i reoli asthma ymhlith oedolion, ac annog ystyriaeth o agenda datgarboneiddio GIG Cymru.

Ceisiadau Brys am Feddyginiaeth Reolaidd
04/06/25

Pwrpas y ddogfen hon yw darparu canllaw i ragnodwyr mewn gwasanaethau gofal sylfaenol GIG 111 a Thu Allan i Oriau wrth asesu angen clinigol a cheisiadau brys gan gleifion am feddyginiaeth reolaidd.

Polisi Cymru Gyfan ar Weinyddu, Cofnodi, Adolygu, Storio a Gwaredu Meddyginiaethau (MARRS)
01/05/25

Mae’r polisi MARRS yn nodi’r safonau ymarfer gofynnol y mae’n rhaid eu mabwysiadu gan yr holl staff gofal iechyd sy’n ymwneud â gweinyddu, cofnodi, adolygu, storio a gwaredu meddyginiaethau mewn sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru.

Canllawiau gwrthficrobaidd gofal sylfaenol
30/04/25

Nod y canllawiau hyn yw darparu dull syml, effeithiol, darbodus ac empirig ar gyfer trin heintiau cyffredin; er mwyn lleihau ymddangosiad ymwrthedd bacterol yn y gymuned.

Rheolaeth glinigol gychwynnol o ddiddyfnu o nicotin ymhlith oedolion mewn gofal eilaidd
04/12/24

Nod y ddogfen hon yw hysbysu ac arwain staff gofal iechyd yn GIG Cymru ynglŷn â sut i ddechrau therapi disodli nicotin (NRT) er mwyn rheoli ddiddyfnu nicotin ymhlith oedolion sy’n ysmygu ac sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty (gofal eilaidd).

Ffarmacotherapi ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu
04/12/24

Mae'r canllaw hwn yn cefnogi presgripsiynu a chyflenwi priodol ffarmacotherapi rhoi'r gorau i ysmygu yn GIG Cymru ar gyfer ysmygwyr sy'n cael eu cymell i roi'r gorau iddi.

Protocol Cymru gyfan ar gyfer rhagnodi cyffuriau gwrthseicotig yn briodol i bobl sy'n byw gyda dementia
22/11/24

 

Nod y ddogfen hon yw arwain arfer gorau wrth gychwyn; monitro; adolygu; lleihau a rhoi’r gorau i gyffuriau gwrth-seicotig ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia o fewn GIG Cymru

Rhagnodi meddyginiaethau generig wedi'u brandio yn GIG Cymru: Datganiad sefyllfa
18/10/24

Ni ddylid rhagnodi meddyginiaethau generig wedi’u brandio fel mater o drefn yn GIG Cymru oni bai bod rheswm clinigol penodol dros wneud hynny.

Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn: Canllaw arfer da
17/10/24

Nod y canllaw hwn yw annog gweithrediad cyson strategaeth rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn ar gyfer cyflyrau hunangyfyngol penodol mewn gofal sylfaenol.

Canllawiau Cymru gyfan ar gyfer dad-labelu alergedd penisilin mewn oedolion mewn gofal eilaidd
29/07/24

Adnoddau i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal eilaidd i dynnu labeli alergedd penisilin oddi ar gleifion ag alergedd heb ei gadarnhau.

Pecyn cymorth optimeiddio meddyginiaethau cartref gofal
12/03/24

Nod Pecyn Cymorth Optimeiddio Meddyginiaethau Cartrefi Gofal yw dod â chyfres o ddogfennau canllaw, offer ac adnoddau defnyddiol at ei gilydd ar gyfer staff cartrefi gofal a thimau fferyllol sy’n rhoi cyngor a chymorth i gartrefi gofal.

Adnoddau addysgiadol tramadol - adolygiad 2021
07/07/23

Mae’r adnoddau addysgiadol hyn yn anelu at gefnogi’r broses o bresgripsiynu tramadol yn GIG Cymru, yng nghyd-destun cymhleth rheoli poen.

Canllawiau rheoli a phresgripsiynu asthma pediatrig Cymru gyfan
21/06/23

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r llwybr i gleifion yng Nghymru, yn benodol o ran yr opsiynau rheoli ar gyfer pob lleoliad gofal iechyd, trothwyon atgyfeirio, a dewisiadau meddyginiaeth cenedlaethol. Mae’n ddogfen ar gyfer dull cenedlaethol, safonol, mwy diogel a chynaliadwy o ofalu am asthma ymhlith plant.

Dilynwch AWTTC: