Neidio i'r prif gynnwy

AWMSG yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2021–2022

Dysgwch am yr holl brosiectau y mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) wedi bod yn gweithio arnynt trwy gydol 2021-2022 yn eu hadroddiad blynyddol diweddaraf, wedi’i lunio gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC).

Ynddo rydym yn tynnu sylw at yr allbynnau o’r naw cyfarfod AWMSG rhithwir a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys:

  • 21 o feddyginiaethau wedi’u harfarnu (8 wedi’u cyflwyno llawn, 4 wedi’u cyflwyno’n rhannol a 9 estyniad trwydded pediatrig)
  • 17 o Ddatganiadau Cyngor wedi’u cyhoeddi
  • 14 o adnoddau optimeiddio meddyginiaethau wedi’u cyhoeddi
  • 15 o ddangosyddion presgripsiynu cenedlaethol wedi’u monitro drwy gydol y flwyddyn
  • 9 o Gynlluniau Mynediad i Gleifion Cymru wedi’u prosesu.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r gwaith pwysig mae AWMSG yn ei wneud gyda’r tri phrif grŵp partner – cleifion a’r cyhoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r diwydiant fferyllol – wrth iddynt barhau i ymateb i heriau’r pandemig tra’n cefnogi presgripsiynu meddyginiaethau diogel a darbodus.

Mae hefyd yn adrodd ar gyflawniadau niferus AWMSG ac AWTTC dros y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf anawsterau’r pandemig.

Dywedodd yr Athro Iolo Doull, Cadeirydd AWMSG: "Mae’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022 wedi bod yn heriol ond yn ddiddorol.

"Mae wedi bod yn galonogol gweld sut rydym wedi gallu addasu ein gwaith i ymateb i heriau pandemig byd-eang COVID-19 a’r gwydnwch a’r arloesedd a ddangoswyd gan yr holl staff sy’n gweithio yn GIG Cymru ac ym maes gofal cymdeithasol.

"Mae’r rôl ganolog y mae meddyginiaethau wedi’i chwarae trwy gydol y pandemig yn amlygu pwysigrwydd y gwaith y mae AWMSG a’i is-grwpiau, Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (AWPAG) a’r Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG), yn ei wneud wrth gynghori Llywodraeth Cymru a chefnogi cydweithwyr gyda phresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau.

"Mae’r gefnogaeth a ddarperir gan y tîm amlddisgyblaethol sy’n gweithio yn AWTTC, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Academaidd Routledge yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, wedi bod yn amhrisiadwy ac unigryw."

Darllenwch yr Adroddiad Blynyddol AWMSG 2021–2022 llawn

Darllenwch rifynnau blaenorol o Adroddiad Blynyddol AWMSG

Dilynwch AWTTC: