Cynhelir Diwrnod Arfer Gorau 2025 yng Nghaerdydd ddydd Mercher 2 Gorffennaf, ac eleni mae AWTTC yn llawn cyffro i gynnal y digwyddiad mewn partneriaeth â Chanolfan Cerdyn Melyn (YCC) Cymru. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddiogelwch meddyginiaethau, a bydd hefyd yn rhoi digon o gyfle i rwydweithio a rhannu syniadau gyda chydweithwyr o bob cwr o Gymru.
Cyflwynir yr agenda lawn isod neu gellir ei lawrlwytho yma.
Mae Diwrnod Arfer Gorau 2025 yn agored i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn diogelwch meddyginiaethau. Fodd bynnag, mae’r digwyddiad bellach wedi’i danysgrifio ac nid yw AWTTC yn cymryd cofrestriadau ychwanegol mwyach.
Anfonwch e-bost at awttc@wales.nhs.uk os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr aros. Os daw lle ar gael byddwn yn anfon e-bost atoch cyn gynted â phosibl.
Darllenwch fwy am rai o'n Diwrnodau Arfer Gorau blaenorol: