Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Arfer Gorau Gorffennaf 2022 – Effaith amgylcheddol meddyginiaethau

Cynhaliodd AWTTC Ddiwrnod Arfer Gorau rhithwir ar 19 Gorffennaf 2022.

Digwyddiad ar-lein oedd hwn yn canolbwyntio ar ‘Effaith amgylcheddol meddyginiaethau’ a rhannu peth o’r gwaith optimeiddio meddyginiaethau rhagorol sy’n digwydd ledled Cymru i gefnogi strategaeth datgarboneiddio GIG Cymru.

Mae fideos o bob un o’r cyflwyniadau ar y diwrnod nawr ar gael i’w gwylio (Saesneg yn unig):

Strategaeth ar gyfer datgarboneiddio – Llywodraeth Cymru
Natalie Proctor, Pennaeth y Gangen Fferylliaeth a Phresgripsiynu, a Bwrdd Datgarboneiddio, Llywodraeth Cymru

Safbwynt y diwydiant ar 'gynaliadwyedd mewn perthynas â meddyginiaethau'
Steve Hoare, Arweinydd Cynaliadwyedd, Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI)

Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru
Sian Evans, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Angharad Wooldridge, Uwch Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Strategaeth Grŵp Gweithredu Iechyd Anadlol (RHIG).
Dr Simon Barry, Arweinydd Clinigol, RHIG

Mentrau datgarboneiddio anadlol mewn gofal sylfaenol
Arfer Gwyrddach Cymru
Dr Richard Thomas, Meddyg Teulu, BIP Bae Abertawe

Pecyn cymorth ac ap datgarboneiddio
Jackie Reynolds, Prif Fferyllydd Anadlol Gofal Sylfaenol, BIP Aneurin Bevan
Vicky Richards-Green, Fferyllydd Arweiniol Gwybodeg Glinigol a Chymorth Rhagnodi, BIP Aneurin Bevan

Menter datgarboneiddio anaestheteg – Ocsid nitraidd mewn gofal eilaidd
Dr Charlotte Oliver, Anesthetydd Ymgynghorol, BIP Caerdydd a'r Fro

Menter gynaliadwyedd fferyllfeydd cymunedol: Ailgylchu anadlyddion
Oliver Newman, Uwch Reolwr Prosiect, Fferylliaeth, BIP Bae Abertawe

Negeseuon datgarboneiddio anadlydd ScriptSwitch
Gemma Williams, Fferyllydd, BIP Bae Abertawe

Safbwynt cleifion ar gynaliadwyedd
Joseph Carter – Asthma a'r Ysgyfaint y DU

Diwrnodau Arfer Gorau yn y Dyfodol

Mae AWTTC yn bwriadu cynnal Diwrnod Arfer Gorau rhithwir arall yng ngwanwyn 2023. Cadwch lygad ar ein gwefan a Twitter (@AWTTCcymraeg) am ragor o wybodaeth.

Dilynwch AWTTC: