Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Arfer Gorau - 2 Gorffennaf 2025

Cynhelir Diwrnod Arfer Gorau 2025 yng Nghaerdydd ddydd Mercher 2 Gorffennaf, ac eleni mae AWTTC yn llawn cyffro i gynnal y digwyddiad mewn partneriaeth â Chanolfan Cerdyn Melyn (YCC) Cymru. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddiogelwch meddyginiaethau, a bydd hefyd yn rhoi digon o gyfle i rwydweithio a rhannu syniadau gyda chydweithwyr o bob cwr o Gymru.

*Newydd ar gyfer 2025 – Cystadleuaeth poster* Eleni rydym hefyd yn edrych ymlaen at lansio cystadleuaeth poster yn y Diwrnod Arfer Gorau. Os ydych chi wedi bod yn rhan o fenter ddiddorol yn ymwneud ag adwaith niweidiol i gyffuriau, diogelwch cleifion neu ddiogelwch meddyginiaethau, efallai yr hoffech ystyried cyflwyno poster i gael cyfle i ennill gwobr poster gyntaf y Diwrnod Arfer Gorau! Anfonwch eich cais drwy e-bost fel sleid PowerPoint (maint A0) i: CAV_YCCWales@wales.nhs.uk erbyn 9:00am ddydd Gwener 6 Mehefin.

Mae'r gwahoddiad ar agor i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn diogelwch meddyginiaethau. Os ydych chi eisiau mynychu, cwblhewch y ffurflen gofrestru.

Darllenwch fwy am rai o'n Diwrnodau Arfer Gorau blaenorol:

Dilynwch AWTTC: