Nid yw AWMSG fel arfer yn arfarnu meddyginiaethau biodebyg.
Bydd cyngor asesiad technoleg iechyd (HTA) presennol ar gyfer y feddyginiaeth ‘cyfeirio’, a gyhoeddir gan AWMSG neu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), yn berthnasol yn awtomatig ar gyfer meddyginiaethau biodebyg trwyddedig ar gyfer yr un dynodiad ac yn yr un boblogaeth â’r feddyginiaeth ‘cyfeirio’. Heb gyngor ar gyfer y cynnyrch ‘cyfeirio’, ni chymeradwyir meddyginiaeth biodebyg ar gyfer ei defnyddio yn GIG Cymru.
Anogir deiliad awdurdodiad marchnata'r feddyginiaeth ‘cyfeirio’ neu biodebyg i ymgysylltu ag AWMSG lle bo cyngor HTA negyddol neu os na fydd cyngor. Cyfeiriwch at AWMSG process for industry engagement (PDF, 477Kb) (Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth.
Ceidw AWMSG yr hawl i wneud cais am gyflwyniad unrhyw feddyginiaeth fiolegol ar gyfer arfarniad, pan gyfarwyddir hynny gan Bwyllgor Llywio AWMSG.
Rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o therapïau celloedd a therapïau genynnau yn cael eu harfarnu gan NICE. Ac eithrio’r therapïau celloedd a therapïau genynnau hynny a gyflwynwyd i’w harfarnu gan NICE, bydd AWMSG yn arfarnu therapïau celloedd a genynnau ar gyfer cleifion sy’n byw yng Nghymru os yw’r therapi wedi’i ddosbarthu fel cynnyrch meddyginiaethol.