Neidio i'r prif gynnwy

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am feddyginiaeth newydd

Helpwch ni i asesu meddyginiaethau newydd a chynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn ag a ddylid ei defnyddio yn GIG Cymru.

Rydym yn asesu pa mor dda y mae meddyginiaeth newydd yn gweithio i drin cyflwr iechyd. Byddwn yn ei chymharu â meddyginiaethau a ddefnyddir ar hyn o bryd i drin y cyflwr hwnnw. Rydym hefyd yn edrych ar faint yn fwy (neu lai) y mae’r feddyginiaeth newydd yn gostio, a chanfod a oes grŵp penodol o gleifion a fyddai’n elwa fwyaf o driniaeth.

Hoffem wybod sut mae cyflwr iechyd yn effeithio ar fywydau cleifion a'u teuluoedd a'u gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn croesawu unrhyw wybodaeth a fyddai’n ein helpu i ddeall sut beth yw byw gyda’r cyflwr hwnnw.

A fyddech cystal â llenwi ein holiadur er mwyn dweud wrthym am eich profiadau ac unrhyw feddyginiaethau yr ydych, neu a oeddech, yn eu cymryd. Mae’n bwysig dweud wrthym os ydych yn teimlo nad yw eich anghenion o ran triniaeth yn cael eu bodloni.

Gallai eich barn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion yng Nghymru.

Darllenwch ein tudalen Gwaith ar y gweill i ganfod pa feddyginiaethau rydym yn eu hasesu ar hyn o bryd a sut i anfon eich barn atom.