Neidio i'r prif gynnwy

Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2025-2028 (Ymgynghoriad)

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y ddogfen ddrafft o’r enw Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2025–2028. Mae’r adolygiad a’r diweddariad o Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol bellach yn digwydd bob tair blynedd er mwyn galluogi byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau hirdymor ar gyfer defnyddio Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol i wneud gwelliannau mesuradwy mewn arferion presgripsiynu. Mae’r gyfres bresennol o Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol yn cyd-fynd ag athroniaeth gofal iechyd darbodus ac yn cyfrannu at ddwy thema yn Cymru Iachach , cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sef:

  • Iechyd a lles y boblogaeth - gwell dulliau atal a hunanreoli
  • Iechyd a gofal cymdeithasol gwerth uwch - gwelliant ac arloesi cyflym, wedi'i alluogi gan ddata, yn canolbwyntio ar ganlyniadau

Mae’r gwaith o ddatblygu’r Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol ar gyfer 2025–2028 yn ystyried y nodau a’r amcanion cyffredinol a osodwyd yn Strategaeth AWMSG i Gymru: 2024–2029 . Er enghraifft:

  • Parhau i ddatblygu Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol gan ddefnyddio’r ffynonellau data diweddaraf a mwyaf addysgiadol sydd ar gael, i ysgogi newid cadarnhaol mewn arferion presgripsiynu a chanlyniadau cleifion.

Ewch i'r ddogfen isod, ychwanegwch unrhyw sylwadau at ein profforma ymgynghori a'i hanfon atom yn: awttc@wales.nhs.uk .

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 20 Awst 2024

National Prescribing Indicators 2025–2028 - Drafft ymgynghori (Saesneg yn unig) 2.85MB (PDF)
National Prescribing Indicators 2025–2028 - Ffurflen ymgynghori 35KB (dogfen Word)
Dilynwch AWTTC: