Neidio i'r prif gynnwy

Opioidau mewn gofal lliniarol

Mae opioidau yn aml yn cael eu cynnig mewn gofal lliniarol i helpu i leihau poen a diffyg anadl.

Mae rhagnodi opioidau mewn lleoliadau gofal lliniarol yn aml yn rhan o ymgynghoriad ehangach ar statws clefydau a materion pwysig eraill yng nghyd-destun gofal lliniarol. Weithiau mae dechrau a thitradu dosau o opioidau yn gymhleth a gall ddigwydd mewn wardiau ysbytai, clinigau a lleoliadau cleifion allanol. Felly, mae'n bwysig bod trafodaeth lafar yn cael ei hategu gan ganllawiau ysgrifenedig i helpu i wella dulliau rheoli poen a diogelwch cleifion, fel yr argymhellir gan ganllawiau NICE: https://www.nice.org.uk/guidance/cg140/chapter/1-Recommendations

Bwriedir i’n canllaw gwybodaeth i gleifion ar gymryd opioidau mewn lleoliadau gofal lliniarol fod yn ychwanegiad defnyddiol y gellir mynd adref ag ef, ar gyfer ymgynghoriadau lle mae triniaeth opioid wedi cael ei thrafod, ei hystyried neu ei rhagnodi.

Mae'r canllaw yn defnyddio model 'Cwestiynau Cyffredin', y gall cleifion a gofalwyr ei ddarllen pryd bynnag y bo angen. Mae dyddiadur ar ddiwedd y canllaw, y gall cleifion, neu eu gofalwyr, ei lenwi i dynnu sylw at faterion pwysig, fel sawl dos o opioid ychwanegol sy'n gweithredu'n gyflym y maent wedi'u cymryd dros y dyddiau diwethaf.

⇩ Opioidau mewn gofal lliniarol - canllaw gwybodaeth i gleifion (Saesneg) 185KB (PDF)
⇩ Opioidau mewn gofal lliniarol - canllaw gwybodaeth i gleifion (Cymraeg) 586KB (PDF)
Dilynwch AWTTC: