Neidio i'r prif gynnwy

Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2021-2022

Mae dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol yn dangos sut mae’r gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru yn presgripsiynu meddyginiaethau penodol, ac yn amlygu unrhyw wahaniaethau mewn patrymau presgripsiynu.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio presgripsiynu rhesymegol fel gwneud yn siŵr bod cleifion yn derbyn y meddyginiaethau cywir ar eu cyfer hwy, gyda’r dosau cywir ac am y cyfnod amser cywir, ac am y gost isaf i gleifion a’u cymuned.

Datblygir dangosyddion presgripsiynu meddyginiaethau bob blwyddyn i hybu presgripsiynu rhesymegol meddyginiaethau yng Nghymru.

Mae’r dangosyddion penodol a ddewisir yn canolbwyntio ar feddyginiaethau y byddai newidiadau ym mhatrymau eu presgripsiynu yn cefnogi presgripsiynu rhesymegol. Mae’r dewis o ddangosyddion wedi’i seilio ar dystiolaeth a bwriedir iddynt fod yn glir a hawdd eu deall gan bresgripsiynwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae’r dangosyddion yn caniatáu i fyrddau iechyd, clystyrau gofal sylfaenol, practisau meddygon teulu a phresgripsiynwyr gymharu eu harfer presgripsiynu presennol yn erbyn safon ansawdd a gytunir.

Ar gyfer y flwyddyn flaenorol (2020-2021), roedd y Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol: Cefnogi Presgripsiynu Diogel wedi’i Optimeiddio yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth presgripsiynu:

  • Poenleddfwyr (yn cynnwys opioidau, tramadol a gabapentin a pregabalin)
  • Gwrthgeulyddion mewn ffibriliad atrïaidd
  • Stiwardiaeth gwrthficrobaidd (yn cynnwys eitemau gwrthficrobaidd cyflawn a’r “gwrthficrobyddion 4C”: co-amocsiclaf, ceffalosporinau, fflworocwinolonau a clindamycin)

Cefnogwyd y tri maes blaenoriaeth hyn gan ddangosyddion ychwanegol:

  • Diogelwch
    • Dangosyddion diogelwch presgripsiynu
    • Atalyddion pwmp proton
    • Cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder
    • Cardiau Melyn
  • Effeithlonrwydd
    • Meddyginiaethau biolegol gwerth gorau
    • Inswlin
    • Gwerth isel ar gyfer presgripsiynu
Oherwydd y pwysau o ran llwyth gwaith ar draws GIG Cymru yn ystod pandemig COVID-19, cariwyd y Dangosyddion ar gyfer 2020-2021 ymlaen i 2021-2022. Felly, mae’r ddogfennaeth gefnogi ganlynol fel y’i darparwyd ar gyfer 2020-2021. Fodd bynnag, mae’r ddogfen ‘Manylebau’ wedi cael ei diweddaru ac mae’n cynnwys targedau trothwy wedi’u hadnewyddu ar gyfer 2021-2022.

 

⇩ National Prescribing Indicators 2020–2021: Supporting Safe and Optimised Prescribing (Saesneg yn unig) 2,445KB (PDF)

Adnoddau cysylltiedig:

⇩ National Prescribing Indicators 2021–2022 - Specifications (Saesneg yn unig) 265KB (PDF)

(Diweddarwyd Tachwedd 2021)
 

⇩ National Prescribing Indicators 2020–2021: Supporting Information for Prescribers and Healthcare Professionals (Saesneg yn unig) 341KB (PDF)
⇩ All Wales Medicines Strategy Group National Prescribing Indicators 2020–2021 - Health Education Improvement Wales e-learning module (dolen allanol)
⇩ National Prescribing Indicators 2020–2021 - Slide Set (Saesneg yn unig) 2,920KB (PowerPoint)
⇩ Local Comparators 2020–2021 (Saesneg yn unig) 194KB (PDF)
26/08/22
Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2021-2022: Adroddiadau chwarterol

Mae Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) ar gyfer 2021-2022 yn cynnwys dangosyddion ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd, gan ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth a gefnogir gan barthau diogelwch ac effeithlonrwydd ychwanegol.

Bob chwarter blwyddyn llunnir adroddiad yn dadansoddi perfformiad pob bwrdd iechyd yn erbyn y set bresennol o NPIs.

Dilynwch AWTTC: