Mae Uned Cymorth Rhagnodi Dadansoddol Cymru (WAPSU), uned ddadansoddol AWTTC, wedi datblygu dangosfwrdd i adrodd ar gynnydd ynghylch cynyddu'r cyfnodau rhagnodi ar gyfer presgripsiynau a roddir o fewn gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi papur canllaw Cymru Gyfan ar gyfnodau rhagnodi ac mae'n defnyddio basged ddethol o feddyginiaethau y cytunwyd arnynt gan randdeiliaid allweddol o bob rhan o Gymru.
Gellir gweld y dangosfwrdd fel rhan o'r Gweinyddwr ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Rhagnodi (SPIRA) .
Mae adroddiadau misol, o'r enw 'Crynodeb o'r cynnydd a wnaed ynghylch cynyddu cyfnodau rhagnodi' hefyd yn cael eu cynhyrchu. Bwriedir i'r adroddiadau hyn fod yn drosolwg cryno o rai o'r metrigau allweddol a ddarperir o fewn dangosfwrdd SPIRA. Gellir gweld yr adroddiadau misol hyn isod: