Neidio i'r prif gynnwy

Rhagnodi cyhoeddiadau dadansoddi

15/04/26
Adroddiad Mewn Ffocws - Tramadol

Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn cynnwys gwybodaeth atodol i'r hyn sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2023-2024. Dadansoddiad o ddata presgripsiynu hyd at Ragfyr 2023, er mwyn rhoi darlun mwy manwl o arferion rhagnodi tramadol ledled Cymru.

15/04/26
Adroddiad Mewn Ffocws - Phenoxymethylpenicillin (Penicillin V)

Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn adroddiad annibynnol sy'n edrych ar ragnodi phenoxymethylpenicillin (Penicillin V) ledled Cymru.

15/04/26
Adroddiad Mewn Ffocws - Cyfanswm y baich opioid

Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn cynnwys gwybodaeth atodol i'r hyn sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2024-2025. Dadansoddiad o ddata presgripsiynu hyd at Fehefin 2024, er mwyn rhoi darlun mwy manwl o gyfanswm y baich opioid ledled Cymru.

15/04/26
Adroddiad Mewn Ffocws - Hypnotigion ac anxiolytigion

Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn cynnwys gwybodaeth atodol i'r hyn sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2024-2025. Dadansoddiad o ddata presgripsiynu hyd at Ragfyr 2025, er mwyn rhoi darlun mwy manwl o arferion rhagnodi cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder ledled Cymru.

15/04/26
Adroddiad Mewn Ffocws - Gabapentin a pregabalin

Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn cynnwys gwybodaeth atodol i'r hyn sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2023-2024. Dadansoddiad o ddata presgripsiynu hyd at Fawrth 2024, er mwyn rhoi darlun mwy manwl o arferion rhagnodi gabapentin a pregabalin ledled Cymru.

15/04/26
Adroddiad Mewn Ffocws - Cyffuriau gwrthficrobaidd 4C

Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn cynnwys gwybodaeth atodol i'r hyn sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2024-2025. Dadansoddiad o ddata presgripsiynu hyd at Fawrth 2025, er mwyn rhoi darlun mwy manwl o arferion rhagnodi cyffuriau gwrthficrobaidd 4C (co-amoxiclav, cephalosporins, fluoroquinolones a clindamycin) ledled Cymru.

03/09/25
Adroddiadau cyfnodau rhagnodi GIG Cymru

Adroddiadau cryno misol ar gynnydd ar gyfer cynyddu cyfnodau rhagnodi o fewn gofal sylfaenol yng Nghymru.

03/09/25
Adroddiadau ôl-troed carbon anadlyddion GIG Cymru

Adroddiadau misol ar ôl-troed carbon defnydd anadlyddion ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru.

20/02/24
Adroddiadau presgripsiynu blynyddol

Mae AWTTC wedi datblygu'r Adroddiadau Rhagnodi Blynyddol canlynol ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru. Adroddiadau cymharol unigol yw'r rhain sy'n rhoi safle a chynnydd y bwrdd iechyd mewn perthynas â chyfres o fesurau mewn perthynas â'r byrddau iechyd eraill.

14/11/16
Monitro meddyginiaethau a arfarnwyd gan NICE ac AWMSG

Bwriad y papur hwn yw hysbysu AWMSG o'r cynnydd a wnaed wrth fonitro'r defnydd o feddyginiaethau a werthuswyd gan AWMSG a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

16/09/15
Dadansoddiad presgripsiynu gofal sylfaenol - meddyginiaethau a ddefnyddir mewn diabetes (Wedi'i dynnu'n ôl)

Paratowyd y ddogfen hon gan Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru (WAPSU) i roi dadansoddiad manwl o bresgripsiynu maes therapiwtig diabetes ar lefel cenedlaethol, bwrdd iechyd a chlystyrau meddygon teulu.

28/02/15
Dadansoddiad presgripsiynu anadlol gyda chymaryddion lefel clwstwr (Wedi'i dynnu'n ôl)

Mae'r papur hwn yn rhoi dadansoddiad o bresgripsiynu gofal sylfaenol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer meddyginiaethau a chymysgeddau ym maes therapiwtig anadlol am y cyfnod Gorffennaf 2013 - Mehefin 2014.

31/10/14
Cymaryddion lefel clystyrau meddygon teulu (Wedi'i dynnu'n ôl)

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu dull arfaethedig ar gyfer datblygu cymaryddion grwpiau clwstwr, yn seiliedig ar debygrwydd economaidd-gymdeithasol a nifer yr achosion o afiechyd, fel y gellir meincnodi presgripsiynu.

Dilynwch AWTTC: