Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Hyfforddiant Diogelwch Meddyginiaethau Canolfan Cerdyn Melyn Cymru 2022

Cynhaliodd YCC Cymru eu diwrnod hyfforddi blynyddol ar 9 Mehefin 2022. Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cyd â Rhwydwaith Diogelwch Meddyginiaethau Cymru Gyfan.

Mynychwyd y diwrnod hyfforddi gan Swyddogion Diogelwch Meddyginiaethau, Hyrwyddwyr Cerdyn Melyn a fferyllwyr/nyrsys sydd â diddordeb mewn diogelwch meddyginiaethau. Roedd cydweithwyr o’r MHRA a Llywodraeth Cymru (gan gynnwys Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru) hefyd yn bresennol.

Roedd y rhaglen ar gyfer digwyddiad eleni yn cynnwys sesiynau ar Seicoleg Diogelwch, Ffarmacogeneteg, Banc Bio’r Cerdyn Melyn, 'Let's Go Green for Med Safety' ac ymyriadau a allai gynyddu nifer yr achosion o adrodd am adweithiau niweidiol i gyffuriau ymhlith plant.

Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys myfyrdod ar ddigwyddiadau yn ystod y pandemig COVID-19 gan gynnwys profiad personol dylanwadol claf, a sesiynau am 'reoleiddio yn ystod Pandemig' a 'darparu gwasanaethau meddyginiaethau newydd diogel yn ystod pandemig'. Hefyd cyflwynodd Andrew Evans sesiwn ar bwysigrwydd parhaus gwyliadwriaeth ffarmacolegol a chyhoeddodd enillwyr Cystadleuaeth Poster YCC Cymru. Llongyfarchiadau i’r canlynol:

  • 1af - Lowri Thomas (BIPCAF) - KAFTRIO: rheoli adweithiau niweidiol i gyffuriau a phwysigrwydd ail-herio
  • 2il – Janet Thomas (BIPBC) - Mae cardiau melyn yn helpu i sicrhau bod rhywbeth 'da' yn deillio o niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau trwy………
  • 3ydd – Scott Pegler a Paul Griffiths (BIPBA) – Cyffuriau a Dirgelwch Marwolaeth Juice

Hoffai YCC Cymru ddiolch i'r holl siaradwyr a wnaeth y diwrnod yn llwyddiant.

 

 

Dilynwch AWTTC: