Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau i broses adolygu argymhellion AWMSG gan gynnwys cyhoeddi rhestr statig newydd

Mae newidiadau i'r ffordd y mae argymhellion arfarnu terfynol AWMSG yn cael eu hadolygu, gan gynnwys cyhoeddi rhestr 'statig', wedi eu gweithredu.  

Mae pob argymhelliad cadarnhaol a wnaed o Hydref 2011 ymlaen wedi'u hadolygu bob tair blynedd i roi sicrwydd bod yr argymhelliad yn parhau i fod yn ddilys. Cyflawnwyd hyn drwy gasglu gwybodaeth a defnyddio rhestr wirio i nodi unrhyw newidiadau sylweddol i dystiolaeth a allai effeithio ar y cyngor gwreiddiol. Mewn dros 10 mlynedd, mae llai na 5% o'r argymhellion wedi gofyn am ddiweddariad. Penderfynwyd felly aildrefnu’r broses er mwyn nodi meddyginiaethau sydd fwyaf tebygol o elwa ar ymchwilio pellach neu ail-asesu.

Mae'r holl argymhellion yn dal i gael eu hadolygu 3 blynedd ar ôl eu cyhoeddi gan ddefnyddio rhestr wirio wedi'i diweddaru a thrwy gynnal chwiliad llenyddiaeth annibynnol.  Os yw'n amlwg nad oes tystiolaeth newydd yn debygol o gael ei chyhoeddi a fyddai'n cael unrhyw effaith sylweddol ar y cyngor presennol, mae'r argymhelliad yn cael ei symud i restr statig AWMSG.  Caiff argymhellion nad ydynt yn addas i'w cynnwys ar y rhestr statig eu hadolygu’n weithredol, a’u hailarfarnu o bosibl os yw'n briodol. Gall argymhellion ar y rhestr statig gael eu trosglwyddo yn ôl i'r rhestr adolygu gweithredol os bydd tystiolaeth newydd yn codi a allai effeithio ar yr argymhelliad a gyhoeddwyd.

Cafodd y broses adolygu wedi'i diweddaru ei chymeradwyo gan Bwyllgor Llywio AWMSG a'i chefnogi gan Fforwm Diwydiant AWTTC.

Mae rhestr statig AWMSG ar gael ar https://awttc.nhs.wales/tudalennau/awmsg-static-list/ (Saesneg yn unig). Disgwylir i'r rhestr hon dyfu wrth i fwy o feddyginiaethau gael eu hadolygu gan ddefnyddio'r broses wedi'i diweddaru.

Dilynwch AWTTC: