Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor meddyginiaethau newydd i GIG Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo argymhellion gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer pedair meddyginiaeth.

  • Argymhellir ferric maltol (Feraccru®) i drin anemia diffyg haearn ysgafn i gymedrol mewn oedolion sydd â chlefyd llidiol y coluddyn, pan nad yw cynhyrchion haearn safonol drwy’r geg wedi gweithio, neu pan nad ydynt yn addas. Mae Feraccru® yn cynnwys haearn ac fe'i defnyddir i drin lefelau haearn isel yn y corff.
  • Argymhellir ambrisentan (Volibris®) i drin gorbwysedd rhydwelïol pwlmonaidd (PAH) mewn oedolion, pobl ifanc a phlant 8 oed a hŷn. PAH yw pwysedd gwaed uchel yn y pibellau gwaed (y rhydwelïau pwlmonaidd) sy'n cludo gwaed o'r galon i'r ysgyfaint. Mewn pobl â PAH, mae'r rhydwelïau hyn yn culhau, felly mae'n rhaid i'r galon weithio'n galetach i bwmpio gwaed drwyddynt. Mae hyn yn achosi i bobl deimlo'n flinedig, yn benysgafn ac yn fyr eu hanadl. Mae Ambrisentan yn lledu'r rhydwelïau pwlmonaidd, gan ei gwneud hi'n haws i'r galon bwmpio gwaed drwyddynt. Mae hyn yn lleihau'r pwysedd gwaed ac yn lleddfu'r symptomau. Gellir rhoi ambrisentan hefyd ar y cyd â meddyginiaethau eraill a ddefnyddir i drin PAH.
  • Argymhellir bedaquiline (Sirturo®) i drin twbercwlosis sy'n effeithio ar yr ysgyfaint pan fydd y clefyd wedi dechrau gwrthsefyll gwrthfiotigau eraill. Gelwir hyn yn dwbercwlosis pwlmonaidd sy'n gwrthsefyll aml-gyffuriau. Rhaid cymryd Sirturo® ar y cyd â meddyginiaethau eraill ar gyfer trin twbercwlosis. Fe'i defnyddir mewn oedolion a phlant 5 oed a hŷn, sy'n pwyso o leiaf 15 kg.
  • Argymhellir migalastat (Galafold®) i drin clefyd Fabry ymhlith pobl ifanc 12 oed hyd at 16 oed sydd â mwtaniadau genetig penodol (newidiadau) sy'n effeithio ar ensym o'r enw alffa-galactosidase A (α-Gal A). Yn dibynnu ar y math o newid yn y genyn sy'n cynhyrchu α-Gal A, nid yw'r ensym yn gweithio'n iawn neu mae'n gwbl absennol. Mae hyn yn arwain at ddyddodion annormal o sylwedd brasterog a elwir yn globotriaosylceramide (GL-3) yn yr arennau, y galon, ac organau eraill, gan arwain at symptomau clefyd Fabry. Mae Migalastat yn gweithio trwy sefydlogi'r ensym y mae'r corff yn ei gynhyrchu'n naturiol, fel y gall weithio'n well i leihau faint o GL-3 sydd wedi cronni mewn celloedd a meinweoedd.

Mae Gwasanaeth Mynediad Cleifion i Feddyginiaethau (PAMS) AWTTC yn cefnogi AWMSG i asesu a monitro meddyginiaethau newydd yng Nghymru.

Dilynwch AWTTC: