Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod y Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG) – 19 Hydref 2023

Cynhaliwyd cyfarfod hydref y Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) ar 19 Hydref. Mae fideos o’r cyflwyniadau bellach ar gael i’w gweld yma: https://cttcg.gig.cymru/papig

Roedd y cyfarfod rhithwir addysgiadol a diddorol yn cynnwys sgyrsiau ar heintiau clostridioides difficle (C. difficile) yng Nghymru, diogelwch meddyginiaethau llysieuol a strategaeth 5 mlynedd newydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Clare Elliott, Uwch Wyddonydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Chleifion, a oedd yn annog rhannu adborth a thrafod trwy gydol y cyfarfod awr a hanner. Fel sy'n arferol, rhoddwyd crynodeb byr o'r gwaith y mae AWTTC wedi bod yn ei wneud ers y cyfarfod PAPIG diwethaf ym mis Gorffennaf gan Ruth Lang, Rheolwr Cyswllt AWTTC.

C. difficile yw un o'r heintiau mwyaf heriol sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ac mae'n ymwneud â thriniaeth wrthfiotig. Mae haint C. difficile yn arwain at driniaeth gostus, ynysu cleifion ac arosiadau hirach yn yr ysbyty a gall fod yn angheuol. I gyd-fynd â mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth C. difficile, rhoddodd Dr Michael Perry, o Uned Gyfeirio Anerobau y DU yn Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyniad ardderchog ar haint C. difficile  yng Nghymru gan dynnu sylw at yr hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn. 

Mae Wythnos Diogelwch Meddyginiaethau yn ymgyrch ymwybyddiaeth arall sy'n digwydd ym mis Tachwedd a rhoddodd Dr Caroline Norris, o Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru drosolwg o ddigwyddiadau cyhoeddus a gynlluniwyd yn ystod yr wythnos hon i dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi gwybod am sgil-effeithiau meddyginiaethau a brechlynnau i'r Cynllun Cerdyn Melyn. Mae mwy am Wythnos Diogelwch Meddyginiaethau ar gael o wefan MHRA yn MedSafetyWeek | Gwneud meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn fwy diogel (mhra.gov.uk)

Cafwyd y cyflwyniad nesaf gan Dr Rob Bracchi, Ymgynghorydd Meddygol AWTTC, a siaradodd am feddyginiaethau llysieuol a mynd i'r afael â'r canfyddiad cyffredin bod meddyginiaethau llysieuol yn ddiogel oherwydd eu bod yn naturiol. Roedd sgwrs addysgiadol Rob yn cynnwys manylion achosion lle achoswyd niwed gan baratoadau llysieuol ac amlygodd nod ardystio cofrestriad llysieuol traddodiadol (THR) MHRA sy'n dangos bod y cynnyrch yn bodloni'r safonau gofynnol o ran ansawdd, diogelwch a thystiolaeth o ddefnydd traddodiadol cyn y gellir ei werthu yn y DU.  

Yn olaf, rhoddodd Dr Steph Francis a Dr Tom Curran, Prif Wyddonwyr AWTTC, drosolwg o'r weledigaeth, cenhadaeth, yr uchelgeisiau a'r nodau a gynhwysir yn Strategaeth newydd AWMSG 2024-2029 sydd ar hyn o bryd yng nghamau olaf ei datblygiad. Mae AWMSG yn cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch defnyddio, rheoli a rhagnodi meddyginiaethau ac mae'r strategaeth newydd hon yn amlinellu sut y bydd AWMSG yn cefnogi GIG Cymru i sicrhau bod y canlyniadau gorau o feddyginiaethau yn cael eu cyflawni dros y 5 mlynedd nesaf. Gwahoddwyd aelodau PAPIG i gyflwyno unrhyw sylwadau am y strategaeth i AWTTC drwy e-bost yn awttc@wales.nhs.uk

Hoffai AWTTC ddiolch i’r holl gyflwynwyr am sgyrsiau mor ddiddorol ac addysgiadol ac i bawb a ddaeth i’r cyfarfod. Mae fideos o’r cyflwyniadau ar gael yma: https://cttcg.gig.cymru/papig

Mae croeso i bawb ymuno â PAPIG a mynychu cyfarfodydd chwarterol, gan gynnwys cleifion a’u teuluoedd, gofalwyr, sefydliadau cleifion ac aelodau o’r cyhoedd.

Bydd cyfarfod nesaf PAPIG ar 27 Chwefror 2024 - bydd rhagor o fanylion gan gynnwys y rhaglen a ffurflen gofrestru ar gael o https://cttcg.gig.cymru/papig ganol fis Rhagfyr.

Dilynwch AWTTC: