Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn mynychu Cynhadledd MediWales Connects 2023

Roedd y gynhadledd hon, a gynhaliwyd yn Canolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd, yn gyfle i arddangos gwaith AWTTC a dysgu am y gwaith sy’n cael ei wneud gan gymunedau iechyd a gofal yng Nghymru.

Roedd Fferyllwyr AWTTC Sabrina Rind a Karen Jones wrth law i godi ymwybyddiaeth o waith pwysig AWTTC ac AWMSG ac roedd yn gyfle gwych i rannu cydweithio rhwng GIG Cymru a diwydiant.

Rhoddodd Sabrina gyflwyniad byr yn amlygu rhywfaint o’r gwaith gwych rydym yn ei wneud i gefnogi’r defnydd gorau o feddyginiaethau yng Nghymru.

Cafwyd prif gyflwyniad gwych gan Judith Paget CBE, Prif Weithredwr y GIG yng Nghymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â seminarau hyfforddi, gweithdai ac arddangosfa.

Gwnaeth cydweithwyr y GIG o bob rhan o Gymru, cwmnïau lleol a’r sector diwydiant ehangach rannu’r arloesedd clinigol sydd ar waith i wella canlyniadau cleifion.

Dilynwch AWTTC: