Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cyfrifoldebau'r clinigwyr?

Bydd yn rhaid i glinigwyr sy’n dymuno cael gafael ar feddyginiaeth nad yw ar gael fel mater o drefn ar y cyffurlyfr, ond sydd ar gael drwy benderfyniad Cymru’n Un, gasglu/monitro canlyniadau cleifion. Bydd tystiolaeth o ganlyniadau clinigol yn cael ei hystyried wrth adolygu penderfyniad Cymru’n Un.

Gall y cyfrifoldeb sydd ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth bresgripsiynu meddyginiaeth ddidrwydded neu feddyginiaeth oddi ar label fod yn fwy nag wrth bresgripsiynu meddyginiaeth drwyddedig o fewn telerau ei thrwydded.

Dylai presgripsiynwyr roi sylw arbennig i’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio meddyginiaethau didrwydded neu ddefnyddio meddyginiaeth drwyddedig oddi ar y label. Gall y risgiau hyn gynnwys: adweithiau niweidiol; ansawdd cynnyrch; neu wybodaeth anghyson am gynnyrch neu labelu (e.e. diffyg gwybodaeth ar gyfer rhai meddyginiaethau didrwydded, gwybodaeth mewn iaith dramor ar gyfer mewnforion didrwydded, a dryswch posibl i gleifion neu ofalwyr pan fydd y Daflen Gwybodaeth i Gleifion yn anghyson â defnydd oddi ar label y feddyginiaeth).

Dilynwch AWTTC: