Neidio i'r prif gynnwy

A yw penderfyniadau Cymru'n Un yn berthnasol i feddyginiaethau biodebyg?

Meddyginiaeth biodebyg yw meddyginiaeth a ddatblygwyd i fod yn debyg i feddyginiaeth fiolegol bresennol. Yn wahanol i feddyginiaethau generig a ystyrir yn union yr un fath â’u meddyginiaeth gyfeiriol, ni ellir atgynhyrchu meddyginiaethau biolegol yn union oherwydd natur gymhleth y dulliau cynhyrchu a’r strwythur moleciwlaidd.

Er mwyn cael awdurdodiad marchnata mae’n rhaid i feddyginiaethau biodebyg allu dangos eu bod mor ddiogel ac mor effeithiol â’r feddyginiaeth gyfeirio wreiddiol a’u bod o’r un ansawdd.

Bydd penderfyniadau interim Cymru’n Un sy’n cyfeirio at feddyginiaeth fiolegol hefyd yn berthnasol i gynhyrchion biodebyg perthnasol a all ymddangos ar y farchnad ar ôl cyhoeddi’r penderfyniad cyn belled bod gan y feddyginiaeth biodebyg bris net cyfatebol neu is o’i gymharu â’r cynnyrch cyfeiriol.

Oherwydd y gwahaniaethau bach rhwng meddyginiaethau biodebyg a/neu’r cynhyrchion cyfeiriol, dylid presgripsiynu meddyginiaethau biolegol yn ôl enw brand er mwyn osgoi amnewidiad awtomatig ac felly helpu gyda gwyliadwriaeth fferyllol.

Dilynwch AWTTC: