Weithiau efallai na fydd bwrdd iechyd yn darparu meddyginiaeth fel mater o drefn; er enghraifft, meddyginiaeth nad yw’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) y DU, wedi’i thrwyddedu eto ar gyfer trin cyflwr penodol.
Os bydd claf a’i glinigydd yn cytuno y byddai meddyginiaeth nad yw ar gael fel mater o drefn o fudd i’r claf, gall y clinigydd gyflwyno Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) yn gofyn i’r bwrdd iechyd, neu Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) , ariannu’r feddyginiaeth. Gellir gwneud ceisiadau hefyd am feddyginiaethau trwyddedig nad ydynt yn cael eu hargymell ar ôl asesiad technoleg iechyd (HTA)..
Bydd panel annibynnol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau lleyg yn cyfarfod i ystyried yr IPFR a’r dystiolaeth glinigol. Cedwir manylion personol y claf yn gyfrinachol bob amser.
Bydd y panel yn penderfynu ariannu meddyginiaeth os yw'r dystiolaeth a ddarperir yn dangos: