Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cynghori ar Sicrhau Ansawdd IPFR

Sefydlwyd Grŵp Cynghori ar Sicrhau Ansawdd IPFR yn 2017 i fonitro a chefnogi pob panel IPFR i hyrwyddo ansawdd wrth wneud penderfyniadau a chysondeb ledled Cymru.

Mae’r Grŵp yn cyfarfod bob chwarter i asesu sampl ar hap o adroddiadau IPFR dienw o ran eu cyflawnrwydd, amseroldeb ac effeithlonrwydd cyfathrebu yn unol â phroses polisi IPFR GIG Cymru. Rhoddir canlyniadau’r asesiad i bob panel yn unol â meini prawf a ddiffiniwyd ymlaen llaw gyda sylwadau gan y Grŵp ac unrhyw arferion da a rennir a themâu cyffredin sy’n codi o’r cyfarfod. Mae’r Grŵp yn adrodd i’r Pennaeth Polisi Fferylliaeth a Phresgripsiynu yn Llywodraeth Cymru gydag unrhyw faterion o bwys yn cael eu dwyn i sylw Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Lawrlwytho cylch gwaith y Grŵp.

Cofnodion cyfarfodydd Grŵp Cynghori ar Sicrhau Ansawdd IPFR

Dilynwch AWTTC: