Neidio i'r prif gynnwy

Pa lwybrau argaeledd eraill sydd yna?

Cymeradwyaeth ymlaen llaw

Nod pob bwrdd iechyd yw sicrhau sefydlu trefniant unffurf syml yn seiliedig ar wasanaethau lleol cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer eu cleifion. Lle na all gwasanaethau’r byrddau iechyd eu hunain ddarparu’r rhain am resymau megis adnoddau, arbenigedd neu gapasiti, bydd y bwrdd iechyd yn ceisio cynllunio a sicrhau gwasanaethau angenrheidiol gyda darparwyr eraill y GIG yng Nghymru.

Diffinnir y broses cymeradwyo ymlaen llaw fel cais i Fwrdd Iechyd neu Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) atgyfeirio claf y tu allan i wasanaethau lleol neu drefniant cytundebol sefydledig ar gyfer triniaeth arferol. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol am ragor o wybodaeth.

Ymyriadau nas chynhelir fel arfer (INNU)

Mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru bolisi INNU sy’n nodi rhestr o driniaethau gofal iechyd sy’n cyfateb i ymyriadau lle mae’r dystiolaeth yn awgrymu ychydig iawn, os o gwbl, o fudd iechyd effeithiol, ac mewn llawer o achosion niwed posibl. Lle mae tystiolaeth o effeithiolrwydd cyfyngedig neu ddim effeithiolrwydd ar gyfer ymyriad, yna dylid lleihau ei ddefnydd. Dim ond os bodlonir meini prawf clinigol penodol y darperir y triniaethau hyn. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol am ragor o wybodaeth.

Cyllid ar gyfer Triniaeth wedi’i Chynllunio yn Ewrop — Triniaeth wedi’i Chynllunio S2 y DU (Cymru) 

Efallai y bydd llwybr S2 yn rhoi hawl i chi gael cyllid y GIG ar gyfer triniaeth gofal iechyd gwladwriaethol wedi’i chynllunio mewn gwlad yn yr UE neu'r Swistir, ar yr amod bod meini prawf cymhwyso penodol yn cael eu bodloni. 

Nid yw hyn yr un peth â gwneud IPFR gan ei fod yn cael ei gwmpasu o dan ddeddfwriaeth wahanol ac mae'n weithdrefn wahanol. Fodd bynnag, bydd y ceisiadau hyn hefyd yn cael eu prosesu gan Dîm IPFR y Bwrdd Iechyd. Cysylltwch â'ch Bwrdd Iechyd Lleol am ragor o wybodaeth a/neu gopi o'r ffurflen gais a'r nodiadau canllaw. 

Dilynwch AWTTC: