Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno gwybodaeth sganio gorwel

Mae tîm sganio’r gorwel AWTTC yn casglu gwybodaeth am feddyginiaethau, dangosiad a fformwleiddiadau newydd sy’n cael eu datblygu a disgwylir iddynt gael eu trwyddedu a’u rhoi ar gael yn y DU yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hefyd yn casglu gwybodaeth am Gynhyrchion Meddyginiaethol Therapi Uwch sy’n cael eu datblygu a allai ddod ar gael yn y tair i bum mlynedd nesaf.

Mae hyn yn cefnogi cynllunio, cyflwyno a mabwysiadu meddyginiaethau newydd yn gyflymach yn GIG Cymru, yn enwedig y rhai a allai fod â goblygiadau sylweddol o ran cost neu gynllunio gwasanaethau.

Mae’r tîm sganio’r gorwel yn defnyddio nifer o ffynonellau i gasglu gwybodaeth am feddyginiaethau newydd sy’n cael eu datblygu. Mae’r tîm yn storio’r wybodaeth hon mewn cronfa ddata ddiogel ac o hon mae’n cynhyrchu adroddiadau sganio’r gorwel cyfrinachol ar gyfer GIG Cymru.

Mae AWTTC yn cefnogi ac yn ymgysylltu’n llawn â chronfa ddata sganio’r gorwel y DU gyfan, UK PharmaScan. Dyma brif ffynhonnell gwybodaeth y tîm sganio’r gorwel am feddyginiaethau, dangosiadau a fformwleiddiadau newydd sy’n cael eu datblygu. Mae holl sefydliadau sganio’r gorwel cenedlaethol y DU yn defnyddio UK PharmaScan. Anogir cwmnïau i gofrestru a defnyddio UK PharmaScan i wneud yn siŵr bod GIG Cymru yn gallu cynllunio ar gyfer eu cynnyrch. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am UK PharmaScan a chofrestru ar wefan UK PharmaScan: https://www.ukpharmascan.org.uk.

Gall cwmnïau fferyllol hefyd ddweud wrth AWTTC am feddyginiaethau, dangosiadau a fformwleiddiadau newydd sy’n debygol o ddod ar gael i’w defnyddio yn y DU drwy anfon e-bost at y tîm sganio’r gorwel yn awttc@wales.nhs.uk. Fel dewis arall i e-bostio, efallai y bydd cwmnïau am uwchlwytho dogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif yn uniongyrchol i AWTTC Vault, porth diogel ar gyfer rhannu ffeiliau . Cysylltwch â ni i drefnu mynediad diogel i'n Vault.

Mae sganio’r gorwel ac ymgysylltu cynnar â chwmnïau hefyd yn cynorthwyo gyda chynllunio ein rhaglen waith arfarnu meddyginiaethau. Ar gyfer meddyginiaethau y disgwylir iddynt dderbyn awdurdodiad marchnata o fewn 6 mis gallwch anfon ffurflen gyflwyno gychwynnol (Ffurflen A). Darganfyddwch fwy am ein proses arfarnu meddyginiaethau yn ein hadran arfarnu Cyflwyno ar gyfer AWMSG .

Dilynwch AWTTC: