Mae gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ddiddordeb cyffredin yn yr ymgyrch i wella mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau newydd. Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn bodoli sy’n nodi’n ffurfiol y cydweithio rhwng NICE ac AWMSG.
Mae NICE wedi bod yn adolygu ei brosesau a’i fethodoleg ar gyfer arfarnu meddyginiaethau gwrthficrobaidd. Tra bod yr adolygiad hwn gan NICE yn mynd rhagddo, derbyniodd AWMSG gyflwyniadau ar gyfer arfarnu meddyginiaethau gwrthficrobaidd i sicrhau bod cyngor yn parhau i fod ar gael yn GIG Cymru. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2022, penderfynodd AWMSG atal arfarniad meddyginiaethau gwrthficrobaidd o ddydd Gwener 29 Ebrill 2022 nes bod AWMSG wedi ystyried methodoleg newydd NICE. Gan gydnabod pwysigrwydd stiwardiaeth gwrthficrobaidd, i glaf unigol, dylid rhagnodi meddyginiaethau gwrthficrobaidd nad sydd wedi’u harfarnu o’r blaen neu na argymhellwyd yn flaenorol gan AWMSG (neu NICE) mewn ymgynghoriad â microbiolegydd a’r claf a/neu warcheidwad neu ofalwr, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Mewn amgylchiadau clinigol brys o’r fath, yn dilyn cyngor gan ficrobiolegydd, ni fydd mynediad at feddyginiaethau gwrthficrobaidd yn cael ei wrthod neu ei oedi.
Mae AWMSG yn cadw’r hawl i ofyn am gyflwyniad ar gyfer arfarniad unrhyw feddyginiaeth gwrthficrobaidd, pan gaiff ei gyfarwyddo gan Grŵp Llywio AWMSG.