Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau masnachol

Mae’r Tîm Mynediad at Feddyginiaethau Masnachol (CMAT) amlsefydliadol yn cefnogi ac yn monitro gweithrediad meddyginiaethau a argymhellir gan AWMSG a NICE sy’n gysylltiedig â threfniant masnachol o fewn GIG Cymru.

Rôl a chyfrifoldeb y CMAT yw cefnogi a monitro gweithrediad meddyginiaethau a argymhellir gan AWMSG a NICE sy’n gysylltiedig â threfniant masnachol o fewn GIG Cymru. Mae trefniant masnachol yn gwella effeithiolrwydd cost meddyginiaeth; gall fod yn Gynllun Mynediad Cleifion (PAS) neu’n Gytundeb Mynediad Masnachol (CAA). Mae hyn yn sail i hanfod Cymru Iachach, gan ganiatáu i gleifion gael mynediad amserol at feddyginiaethau, tra hefyd yn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn cael y gwerth gorau posibl am arian o ran meddyginiaethau.

Mae’r CMAT yn gweithio gyda chwmnïau fferyllol i hwyluso argaeledd trefniant masnachol ar gyfer meddyginiaethau a ddarperir yn yr ysbyty ac yn y gymuned lle bo’n briodol, sy’n helpu i alluogi mynediad at feddyginiaeth yn nes at adref. Mae hyn hefyd yn cefnogi trawsnewid gwasanaethau o ysbytai i gymunedau lleol, gyda meddyginiaethau’n cael eu cyflenwi drwy fferyllfeydd cymunedol, neu wasanaeth gofal cartref trydydd parti, mewn ffordd ddiogel sy’n diwallu anghenion cleifion.

Mae ymgysylltiad cynnar cwmni â CMAT i drafod a chytuno ar drefniant masnachol ar gyfer meddyginiaeth a argymhellir yn hanfodol i gefnogi mynediad amserol at feddyginiaethau ar gyfer cleifion yng Nghymru. Boed hynny o ddyddiad y Penderfyniad Arfarniad Terfynol (FAD) a gyhoeddwyd gan NICE neu’r Argymhelliad Arfarniad Terfynol (FAR) a gyhoeddwyd gan AWMSG, mae CMAT wedi ymrwymo i gefnogi’r byrddau ac ymddiriedolaeth iechyd i ddarparu mynediad at feddyginiaethau a argymhellir o fewn 60 diwrnod drwy hwyluso cytundeb ar y trefniant masnachol cysylltiedig Cymru Gyfan cyn gynted â phosibl.

Ar gyfer unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu ymgysylltu cynnar, cysylltwch â thîm CMAT yn y cyfeiriad e-bost canlynol:NHSWales.CA@wales.nhs.uk

Dilynwch AWTTC: