Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn cynhyrchu'r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs). Mae'r NPIs yn dangos sut mae'r gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru yn rhagnodi meddyginiaethau penodol ac yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau mewn patrymau rhagnodi. Fe'u datblygir i hyrwyddo dull rhesymol o ragnodi meddyginiaethau yng Nghymru ac fe'u hadolygir bob tair blynedd. Mae’r dewis o ddangosyddion yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’r dangosyddion wedi’u cynllunio i fod yn glir ac yn hawdd i ragnodwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu deall.
Mae'r dangosyddion yn cymharu arfer rhagnodi cyfredol yn erbyn safon ansawdd y cytunwyd arni.
Gall defnyddwyr rhwydwaith GIG Cymru gael mynediad at y rhan fwyaf o'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn drwy ddangosfyrddau rhyngweithiol SPIRA (Gweinydd ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Presgripsiynu).
Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn cynnwys gwybodaeth atodol i'r hyn sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2023-2024. Dadansoddiad o ddata presgripsiynu hyd at Ragfyr 2023, er mwyn rhoi darlun mwy manwl o arferion rhagnodi tramadol ledled Cymru. Mae poenleddfwyr, gan gynnwys tramadol, yn un o feysydd blaenoriaeth yr NPI. Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn dangos tueddiadau rhagnodi dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar lefel bwrdd iechyd, clwstwr gofal sylfaenol a phractis meddyg teulu. Cyflwynir canran y practisau sy'n cyrraedd y trothwy a'r cyflawniadau targed. Yn ogystal, mae'n cynnwys adran sbotolau ar arfer da gan ddau bractis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
⇩ In Focus report - Tramadol - (Saesneg yn unig) 892KMB (PDF) |
(Cyhoeddwyd: Ebrill 2026)