Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Mewn Ffocws - Phenoxymethylpenicillin (Penicillin V)

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn cynhyrchu'r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs). Mae'r NPIs yn dangos sut mae'r gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru yn rhagnodi meddyginiaethau penodol ac yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau mewn patrymau rhagnodi. Fe'u datblygir i hyrwyddo dull rhesymol o ragnodi meddyginiaethau yng Nghymru ac fe'u hadolygir bob tair blynedd. Mae’r dewis o ddangosyddion yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’r dangosyddion wedi’u cynllunio i fod yn glir ac yn hawdd i ragnodwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu deall.

Mae'r dangosyddion yn cymharu arfer rhagnodi cyfredol yn erbyn safon ansawdd y cytunwyd arni.

Gall defnyddwyr rhwydwaith GIG Cymru gael mynediad at y rhan fwyaf o'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn drwy ddangosfyrddau rhyngweithiol SPIRA (Gweinydd ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Presgripsiynu).

Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn adroddiad annibynnol sy'n edrych ar ragnodi phenoxymethylpenicillin (Penicillin V) ledled Cymru. Er nad yw Penicillin V yn cael ei fonitro fel rhan o'r NPIs, mae stiwardiaeth gwrthficrobaidd yn un o'r meysydd blaenoriaeth. Dim ond ar ragnodi tabledi Penicillin V 250mg y mae'r adroddiad hwn yn edrych ac mae'n cynnwys eitemau a ragnodir gan feddygfeydd teulu a chyflenwad fferyllfeydd cymunedol, trwy'r Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf (STTT). Mae'n archwilio canran y Penicillin V a ragnodir mewn symiau amrywiol fel procsi ar gyfer hyd y cwrs yn ôl bwrdd iechyd. Y symiau a gynhwyswyd yn yr adroddiad hwn oedd:

  • 40 tabled (tybir ei fod yn gwrs 5 diwrnod ar gyfer dolur gwddf),
  • 80 tabled (tybir ei fod yn gwrs 10 diwrnod ar gyfer dolur gwddf),
  • 56 tabled (cwrs 7 diwrnod ar gyfer dolur gwddf, neu bresgripsiwn 28 diwrnod ar gyfer proffylacsis),
  • 112, 168 a 224 gyda'i gilydd (56 diwrnod, 84 diwrnod a 112 diwrnod yn y drefn honno ar gyfer proffylacsis).
⇩ In Focus report - Phenoxymethylpenicillin prescribing in Wales - (Saesneg yn unig) 617KB (PDF)

(Cyhoeddwyd: Ebrill 2026)

Dilynwch AWTTC: