Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Mewn Ffocws - Hypnotigion ac anxiolytigion

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn cynhyrchu'r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs). Mae'r NPIs yn dangos sut mae'r gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru yn rhagnodi meddyginiaethau penodol ac yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau mewn patrymau rhagnodi. Fe'u datblygir i hyrwyddo dull rhesymol o ragnodi meddyginiaethau yng Nghymru ac fe'u hadolygir bob tair blynedd. Mae’r dewis o ddangosyddion yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’r dangosyddion wedi’u cynllunio i fod yn glir ac yn hawdd i ragnodwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu deall.

Mae'r dangosyddion yn cymharu arfer rhagnodi cyfredol yn erbyn safon ansawdd y cytunwyd arni.

Gall defnyddwyr rhwydwaith GIG Cymru gael mynediad at y rhan fwyaf o'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn drwy ddangosfyrddau rhyngweithiol SPIRA (Gweinydd ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Presgripsiynu).

Adroddiad Mewn Ffocws: Cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder. Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn cynnwys gwybodaeth atodol i'r hyn sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2024-2025. Dadansoddiad o ddata presgripsiynu hyd at Ragfyr 2025, er mwyn rhoi darlun mwy manwl o arferion rhagnodi cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder ledled Cymru. Mae cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder yn un o feysydd cefnogi diogelwch yr NPI. Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn dangos tueddiadau rhagnodi dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar lefel bwrdd iechyd, clwstwr gofal sylfaenol a phractis meddyg teulu. Cyflwynir canran y practisau sy'n cyrraedd y trothwy a'r cyflawniadau targed. Yn ogystal, mae'n cynnwys dadansoddiad o'r fasged yn ôl meddyginiaeth ac adran sbotolau ar arfer da gan BIP Bae Abertawe. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth atodol am ragnodi propranolol oherwydd pryderon ynghylch ei wenwyndra mewn gorddos.

⇩ In Focus report - Hypnotics and anxiolytics - (Saesneg yn unig) 1.4MB (PDF)

(Cyhoeddwyd: Ebrill 2026)

Dilynwch AWTTC: