Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Mewn Ffocws - Hyd y cwrs gwrthfiotig ar gyfer haint y llwybr anadlol

Mae'r adroddiad Mewn Ffocws hwn yn cynnwys gwybodaeth atodol i'r hyn sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 20252026: Dadansoddiad o ddata presgripsiynu hyd at fis Rhagfyr 2025. Mae'n rhoi darlun mwy manwl o ragnodi hyd cwrs 5- a 7-diwrnod ar gyfer capsiwlau amoxicillin 500 mg, capsiwlau doxycycline 100 mg a thabledi clarithromycin 500 mg ledled Cymru. Mae stiwardiaeth wrthficrobaidd yn un o feysydd blaenoriaeth yr NPI. Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn dangos hyd cwrs 5-diwrnod, fel canran o hyd cwrs 5- a 7-diwrnod, am y ddwy flynedd ddiwethaf ar lefel bwrdd iechyd, clwstwr gofal sylfaenol a phractis meddyg teulu. Yn ogystal, mae'n cynnwys:

  • Canran y practisau sy'n cyrraedd y trothwy a'r cyflawniadau targed.
  • Tueddiadau mewn hyd cyrsiau 5-diwrnod, 7-diwrnod a chyrsiau eraill yn ôl bwrdd iechyd ar gyfer pob gwrthfiotig.
  • Cymhariaeth o newidiadau mewn cost, maint a gwariant ar gyfer 2025 o gymharu â 2024.
In Focus report: Antibiotic course duration for respiratory tract infection (Saesneg yn unig) 2,162KB (PDF)

(Cyhoeddwyd: Mai 2026)

Dilynwch AWTTC: