Neidio i'r prif gynnwy

Meddyginiaethau a nodwyd fel rhai gwerth isel i'w rhagnodi yn GIG Cymru

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) wedi cymeradwyo canllawiau gwerth isel ar gyfer rhagnodi sy'n rhoi cyngor i ragnodwyr a byrddau iechyd yng Nghymru i leihau'r defnydd o feddyginiaethau na ddylid eu rhagnodi'n rheolaidd gan fod naill ai dewisiadau amgen mwy costeffeithiol yn bodoli (parth effeithlonrwydd), bod tystiolaeth o effeithiolrwydd clinigol y feddyginiaeth yn gyfyngedig (parth effeithlonrwydd), neu gallai'r feddyginiaeth beri risg o niwed i gleifion (parth diogelwch).

Cafodd y gwaith hwn ei ymgorffori yn y rhaglen Rhagnodi ar sail gwerth a gymeradwywyd gan AWMSG yn 2022, sy'n anelu at gyflawni newid ystyrlon yn y defnydd o feddyginiaethau ac adnoddau i gleifion yng Nghymru. Adolygodd grŵp gorchwyl a gorffen, gyda chynrychiolaeth o bob bwrdd iechyd, yr argymhellion blaenorol. Adolygwyd y wybodaeth gefndirol ar gyfer pob argymhelliad a'i diweddaru lle bo'n berthnasol. Ar gyfer rhai meddyginiaethau, teimlai'r grŵp gorchwyl a gorffen fod angen cynnal adolygiad llenyddiaeth mwy manwl. Mae'r rhain wedi'u cynnwys fel atodiadau yn y papur.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a thrafodaeth ddilynol gan y Grŵp Cynghori ar Ragnodi Cymru Gyfan (AWPAG) a hefyd gan AWMSG, mae meddyginiaethau gwerth isel ar gyfer rhagnodi o fewn Meddyginiaethau a nodwyd fel gwerth isel ar gyfer rhagnodi yn GIG Cymru wedi'u grwpio yn ôl y penderfyniadau canlynol:

  • Meddyginiaethau gwerth isel ar gyfer rhagnodi i’w monitro’n weithredol o fewn y parth diogelwch – co-proxamol, chloral hydrate, minocycline, a chynhyrchion sy’n gyfuniad o paracetamol/tramadol.
  • Meddyginiaethau gwerth isel ar gyfer rhagnodi i'w monitro'n weithredol o fewn y parth effeithlonrwydd – cynhyrchion sy’n gyfuniad o oxycodone/naloxone, perindopril arginine, rubefacients, probiotegau, asid asgorbig, alimemazine, stribedi profi glwcos yn y gwaed, liothyronine gan gynnwys echdyniadau thyroid sych (e.e. Armour Thyroid), a chyfansoddion asid brasterog omega-3.
  • Meddyginiaethau gwerth isel ar gyfer rhagnodi i beidio â chael eu monitro'n weithredol mwyach – tadalafil, aliskiren, ketovite, seleniwm, dillad sidan a thabledi doxazosin sy’n rhyddhau dan reolaeth.
  • Meddyginiaethau gwerth isel ar gyfer rhagnodi i'w tynnu dros dro o'r argymhellion gweithredol tra bod gwaith pellach yn ymwneud â gweithredu'r argymhellion yn cael ei ystyried – plastrau lidocaine 5%.

Ystyrir bod meddyginiaethau sydd wedi'u tynnu oddi ar y rhestr argymhellion gweithredol yn dal i fod o werth isel a bydd data ar eu defnydd yn parhau i fod ar gael at ddibenion monitro. Os bydd y defnydd yn dechrau cynyddu, bydd eu hailgyflwyno i'r rhestr fonitro weithredol yn cael ei ystyried.

Mae dangosfwrdd newydd sydd wedi'i gynnal o fewn y Gweinydd ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Rhagnodi (SPIRA), sydd ar gael i bob defnyddiwr sydd ar rwydwaith GIG Cymru, yn darparu dadansoddiad manylach ar gyfer y defnydd o feddyginiaethau a nodwyd o fewn y canllawiau gwerth isel ar gyfer rhagnodi.

 

Medicines identified as low value for prescribing in NHS Wales (Saesneg yn unig) 1251 KB (PDF)

Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2026

 

Ffurflen Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

Medicines identified as low value for prescribing in NHS Wales - EqHIA (Saesneg yn unig)

 

Mae'r papurau canllaw gwreiddiol ar feddyginiaethau gwerth isel ar gyfer rhagnodi yn parhau i fod ar gael isod, ond cofiwch y gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf bellach yn y ddogfen gyfunol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2026.

Papur 1 - Ymddeolwyd Gorffennaf 2026

Nodwyd pum meddyginiaeth/grŵp o feddyginiaethau at ddibenion y ddogfen hon: co-proxamol, plastrau lidocaîn, paratoadau tadalafil unwaith y dydd, tabledi rhyddhau wedi'u haddasu liothyronine a doxazosin.

Medicines identified as Low Priority for Funding in NHS Wales — Paper 1 (Saesneg yn unig) 674 KB (PDF)

(Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 - Ymddeolwyd Gorffennaf 2026)

Papur 2 - Ymddeolwyd Gorffennaf 2026

Nodwyd pedwar meddyginiaeth/grŵp meddyginiaethau at ddibenion y ddogfen hon: cyfansoddion asid brasterog omega-3, cynnyrch cyfuniad ocsycodon a naloxone, cynnyrch cyfuniad paracetamol a tramadol a perindopril arginine.

Medicines identified as Low Priority for Funding in NHS Wales — Paper 2 (Saesneg yn unig) 504 KB (PDF)

(Cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018 - Ymddeolwyd Gorffennaf 2026)

Papur 3 - Ymddeolwyd Gorffennaf 2026

Nodwyd naw meddyginiaeth/grŵp meddyginiaethau at ddibenion y ddogfen hon:

  • Meddyginiaethau o effeithiolrwydd clinigol isel:
    • hydrad cloral (betain cloral)
    • minocycline
    • probiotegau
    • rhwbefacients
    • dillad sidan
    • fitaminau a mwynau.
  • Meddyginiaethau lle'r oedd dewisiadau amgen mwy cost-effeithiol ar gael:
    • alimemazine
    • aliskiren
    • stribedi profi glwcos yn y gwaed.
Items Identified as Low Value for Prescribing in NHS Wales — Paper 3 (Saesneg yn unig) 307 KB (PDF)

(Cyhoeddwyd Chwefror 2020 - Ymddeolwyd Gorffennaf 2026)

Dilynwch AWTTC: