Neidio i'r prif gynnwy

Dad-labelu alergedd penisilin hanesyddol mewn oedolion

Rydym eisiau eich adborth!

Fel rhan o adolygiad ehangach o'r ‘Fframwaith Optimeiddio Meddyginiaethau’, rydym yn chwilio am adborth ar ystod o'n hadnoddau optimeiddio meddyginiaethau a gymeradwywyd gan AWMSG. Cwblhewch ein harolwg byr a rhannwch eich adborth ar yr adnodd 'Dad-labelu alergedd penisilin hanesyddol mewn oedolion’.

Gallwch gael mynediad at yr arolwg yma (Saesneg yn unig)

Mae gan tua 6% o boblogaeth gyffredinol y DU label alergedd penisilin wedi’i gofnodi. Mewn llawer o achosion, gall hyn fod oherwydd adwaith andwyol a ddigwyddodd yn ystod cwrs o benisilin pan yn blentyn. Yn ogystal, digwyddodd yr adweithiau i benisilin i lawer o gleifion dros 10 mlynedd yn ôl ac ni ellir cofio manylion yr adwaith. Ar ben hynny, mewn hyd at 80% o gleifion, gall sensitifrwydd gael ei golli, a gall unigolion ddechrau goddef penisilin ar ôl 10 mlynedd. Mae tystiolaeth yn dangos nad oes gan fwy na 90% o gleifion sydd wedi’u labelu ag alergedd penisilin yr alergedd hwnnw pan gânt eu hasesu’n ffurfiol. Mae tystiolaeth gynyddol y gall labeli alergedd penisilin anghywir arwain at gleifion yn cael triniaeth gwrthfiotig amgen is-optimaidd a gallai hyn arwain at ganlyniadau gwaeth.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a gellir eu defnyddio i helpu i adnabod pobl sydd â risg isel iawn o alergedd gwirioneddol i benisilin, y mae’n ddiogel tynnu’r label alergedd penisilin oddi arnynt yn seiliedig ar hanes blaenorol yn unig. Mae’r adnodd yn cynnwys deunyddiau ymarferol fel taflenni gwybodaeth i gleifion, templed asesu, posteri, templedi llythyrau a chardiau alergedd.

⇩ History-based penicillin allergy de-labelling in adults (Saesneg yn unig) 1MB (PDF)

Cyhoeddwyd - Gorffenaf 2026

 

Atodiadau

⇩ Appendix 1. Penicillin de-labelling EMIS search (Saesneg yn unig) 5KB (.xml)
⇩ Appendix 2. Contacting people to explore de-labelling (Cymraeg a Saesneg) – SMS message 83KB (PDF)
⇩ Appendix 3. Allergy to penicillin – Patient information leaflet (Cymraeg a Saesneg) 104KB (PDF)
⇩ Appendix 4. One-page CAPTURE penicillin allergy assessment (Saesneg yn unig) 195KB (PDF)
⇩ Appendix 5. Penicillin de-labelling EMIS CAPTURE assessment template (Saesneg yn unig) 18KB (.xml)
⇩ Appendix 6. Allergy card (Cymraeg a Saesneg) 380KB (PDF)
⇩ Appendix 7. Outcome communication and satisfaction survey invitation – SMS (Cymraeg a Saesneg) 83KB (PDF)
⇩ Appendix 8. Satisfaction survey (Saesneg yn unig) 119KB (PDF)
⇩ Appendix 9. Template letter for GP, community pharmacy, other healthcare providers (Saesneg yn unig) 97KB (PDF)
⇩ Appendix 10. Poster for waiting areas (Cymraeg a Saesneg) 208KB (PDF)

 

Ffurflen Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

History-based penicillin allergy de-labelling in adults - EqHIA (Saesneg yn unig) - Mai 2026

Dilynwch AWTTC: