Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer rhagnodi gwrthretrofirol HIV-1

Rydym eisiau eich adborth!

Fel rhan o adolygiad ehangach o'r ‘Fframwaith Optimeiddio Meddyginiaethau’, rydym yn chwilio am adborth ar ystod o'n hadnoddau optimeiddio meddyginiaethau a gymeradwywyd gan AWMSG. Cwblhewch ein harolwg byr a rhannwch eich adborth ar yr adnodd 'Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer rhagnodi gwrthretrofirol HIV-1’.

Gallwch gael mynediad at yr arolwg yma (Saesneg yn unig)

Pwrpas Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer rhagnodi gwrthretrofirol HIV-1 yw cefnogi cysondeb ledled Cymru mewn rhagnodi therapi gwrthretrofirol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddarbodus ar gyfer trin HIV-1. Nod y canllawiau yw cefnogi clinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill wrth reoli HIV-1 yn ffarmacolegol i gyflawni arfer rhagnodi da, optimeiddio triniaeth i atal y llwyth firaol tra’n lleihau’r risg o sgîl-effeithiau, a gwella ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd yr unigolyn.

All Wales HIV-1 antiretroviral therapy prescribing guidelines (Saesneg yn unig)1MB (PDF)

Cyhoeddwyd - Mai 2026

Ffurflen Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

Canllawiau rhagnodi therapi gwrthretrofirol HIV-1 Cymru gyfan EqHIA (Saesneg yn unig) - Mai 2026

Dilynwch AWTTC: