Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gleifion

Mae gabapentin a pregabalin yn feddyginiaethau a ddefnyddir i drin 'poen nerfau', a elwir hefyd yn boen niwropathig. Gall deimlo fel poen llosgi, saethu neu drywanu, goglais neu sioc drydanol.

Cyn penderfynu cymryd gabapentin neu pregabalin, ystyriwch ffyrdd eraill o reoli eich poen yn gyntaf (gweler 'Byw'n dda gyda phoen' am awgrymiadau).

Os ydych chi'n cymryd, neu ar fin dechrau cymryd, gabapentin neu pregabalin, mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r risgiau yn ogystal â'r manteision posibl.

Ar y dudalen hon:
Ystyried gabapentin neu pregabalin
Adolygu eich gabapentin neu pregabalin
Lleihau eich gabapentin neu pregabalin
Taflenni gwybodaeth i gleifion
Adnoddau defnyddiol

Ystyried gabapentin neu pregabalin

Dylid gwneud y penderfyniad i roi cynnig ar gymryd gabapentin neu pregabalin i helpu gyda'ch poen ar y cyd â'ch gweithiwr gofal iechyd. Mae'n bwysig eich bod yn deall beth mae'r meddyginiaethau hyn yn ei wneud, pa mor dda y maent yn gweithio, a beth i'w ddisgwyl os byddwch yn eu cymryd. Mae hefyd yn bwysig deall y manteision posibl a'r risgiau cyn dechrau triniaeth.

Adolygu eich gabapentin neu pregabalin

Mae'n bwysig adolygu eich meddyginiaeth yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei bod yn dal i helpu ac nad yw'n achosi problemau. Bydd adolygiad yn eich helpu chi a'ch gweithiwr gofal iechyd i benderfynu a ddylech barhau i gymryd eich meddyginiaeth, newid neu leihau'r dos, neu roi'r gorau i'w chymryd.

Lleihau eich gabapentin neu pregabalin

Mae'n bwysig deall pam y gallai lleihau eich dos o gabapentin neu pregabalin fod yn iawn i chi, a beth allai ddigwydd os caiff eich dos ei leihau. Weithiau defnyddir eich meddyginiaeth ar gyfer poen hirhoedlog (cronig). Fodd bynnag, efallai na fydd yn gweithio i rai pobl a gall achosi sgil-effeithiau.

Taflenni gwybodaeth i gleifion

 Gabapentin neu pregabalin ar gyfer poen 110KB (PDF)
 Adolygu eich gabapentin neu pregabalin ar gyfer poen 122KB (PDF)
 Lleihau eich gabapentin neu pregabalin ar gyfer poen 107KB (PDF)
 Lleihau eich gabapentin neu pregabalin am resymau diogelwch 126KB (PDF)

Adnoddau defnyddiol

EPP Cymru: Gall cleifion gysylltu'n uniongyrchol â'u rhaglen EPP Cymru leol i holi am y cyrsiau hunanreoli poen cronig sydd ar gael - Rhaglenni Addysg i Gleifion ar gyfer poen cronig.

Mae modd dod o hyd i ragor o ddolenni at adnoddau i gleifion sydd ar gael yn Gymraeg ar ein tudalen Useful resources for patients.

Dilynwch AWTTC: