Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau gabapentinoid Cymru Gyfan ar gyfer poen cronig

Mae Adnoddau gabapentinoid Cymru Gyfan ar gyfer poen cronig wedi'u datblygu i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ragnodi, adolygu a dad-ragnodi gabapentin a pregabalin (gabapentinoidau) yn briodol ar gyfer poen cronig. Mae'r adnoddau wedi'u rhannu'n bum pecyn ac maent yn darparu canllawiau ymarferol i gefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd â chleifion, hyrwyddo dull cyfannol o reoli poen cronig, a lleihau rhagnodi amhriodol. Gellir defnyddio pob pecyn adnoddau ar ei ben ei hun neu ochr yn ochr â'r lleill i gefnogi trafodaethau gyda chleifion.

Mae'r pecynnau adnoddau ar gael yn Saesneg yn unig; fodd bynnag, gellir cael mynediad at yr adnoddau i gleifion sydd wedi'u cynnwys yn Gymraeg ar y dudalen gwybodaeth i gleifion.

Dilynwch AWTTC: