Datblygwyd yr adnoddau hyn ar gais Llywodraeth Cymru, a’u nod yw cefnogi’r gwaith o bresgripsiynu meddyginiaethau a ddefnyddir yn GIG Cymru i reoli poen. Mae’r adnoddau’n cynnwys dogfen ganllaw stiwardiaeth poenliniarwyr, a dogfennau sy’n cynghori ar reoli poen yn ffarmacolegol. Mae’r adnoddau hyn yn diweddaru ac yn disodli’r eitemau a restrwyd yn flaenorol ar ein gwefan fel ‘Adnoddau Poen Parhaus’.
Mae adnoddau eraill sy’n ymwneud â phresgripsiynu tramadol a defnydd diogel o glytiau opioid ar gael ar wefan AWTTC.
Mae’r canllaw hwn yn cefnogi stiwardiaeth poenliniarwyr, sydd â’r nod o wella canlyniadau i gleifion, lleihau niwed cysylltiedig â phoenliniarwyr a sicrhau defnydd cost-effeithiol o boenliniarwyr i reoli poen yn y ffordd orau bosibl. Gall gweithgareddau stiwardiaeth poenliniarwyr gynnwys datblygu canllawiau, monitro defnydd poenliniarwyr, canfod tueddiadau a darpariaeth deunydd addysgol i gleifion ac ymarferwyr.
Mae’r canllaw hwn wedi’i addasu o’r ddogfen ‘Quality Prescribing in Chronic Pain’ a luniwyd gan Lywodraeth yr Alban a GIG yr Alban. Datblygwyd canllaw’r Alban gan weithgor amlddisgyblaeth o weithwyr proffesiynol, arbenigwyr ar sail profiad, a sefydliadau trydydd sector.
⇩ All Wales Analgesic Stewardship Guidance (Saesneg yn unig) 417KB (PDF) |
(Tachwedd 2022)
(Wedi'i ddiweddaru Gorffennaf 2023)
Diben y canllawiau hyn yw cefnogi rhagnodwyr yng Nghymru i wneud y dewisiadau gorau wrth ddefnyddio meddyginiaethau i reoli poen. Y nod yw gwella canlyniadau cleifion, lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag analgig a hyrwyddo defnydd cost-effeithiol o boenliniarwyr i ddarparu'r rheolaeth poen gorau posibl.
⇩ All Wales Pharmacological Management of Pain Guidance (Saesneg yn unig) 445KB (PDF) |
(Tachwedd 2022)
(Wedi'i ddiweddaru Gorffennaf 2023)
Mae’r atodiadau ar gael i’w lawrlwytho ar wahân: