Neidio i'r prif gynnwy

Archwiliadau presgripsiynu cenedlaethol

Archwiliad Cenedlaethol CEPP - Canolbwyntio ar bresgripsiynu gwrthfiotigau
07/08/24

Datblygwyd yr archwiliadau hyn i hyrwyddo presgripsiynu gwrthfiotigau yn unol â’r canllawiau presennol ac i gefnogi clinigwyr i hyrwyddo gwelliant ansawdd drwy adolygu presgripsiynu gwrthficrobaidd yn eu practisau.

Archwiliad Cenedlaethol CEPP - cyffuriau gwrthseicotig mewn dementia
26/12/18

Nod yr archwiliad hwn yw sicrhau bod cyffuriau gwrthseicotig yn cael eu presgripsiynu’n briodol ar gyfer cleifion 65 oed a hŷn sydd â diagnosis o ddementia.

Archwiliad Cenedlaethol CEPP - rheoli meddyginiaethau ar gyfer clefyd cronig yr arennau
15/02/17

Datblygwyd yr archwiliad hwn er mwyn cefnogi ymhellach reolaeth cleifion sydd â CKD gyda’r bwriad o wella’r gallu i adnabod cleifion perthnasol, rheolaeth eu meddyginiaethau a chanlyniadau therapiwtig.

Archwiliad Cenedlaethol CEPP - tuag at bresgripsiynu cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAID) priodol
17/06/15

Datblygwyd yr archwiliad hwn i'w ddefnyddio gan feddygon teulu gofal sylfaenol i dynnu sylw at faterion diogelwch sy'n gysylltiedig â phresgripsiynu Cyffuriau Gwrthlidiol Ansteroidaidd (NSAID), yn enwedig mewn cleifion sydd â risg uwch o sgîl-effeithiau.

Dilynwch AWTTC: