Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn lansio dangosfwrdd newydd i helpu GIG Cymru i leihau'r ôl troed carbon sy'n gysylltiedig â defnyddio anadlyddion

Mae Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru (WAPSU), o fewn uned ddadansoddol Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), wedi datblygu dangosfwrdd i adrodd ar gynnydd o ran lleihau ôl troed carbon anadlyddion a ddefnyddir mewn gofal sylfaenol yng Nghymru.

Mae'n adrodd ar sawl metrig allweddol ar lefel Bwrdd Iechyd, clwstwr a meddygfeydd i gefnogi ein rhanddeiliaid amrywiol i leihau'r ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â defnyddio anadlyddion. Mae'r dangosfwrdd hwn wedi lansio'n swyddogol ac ar gael i holl staff y GIG ar y Gweinydd ar gyfer Gwybodaeth, Adroddiadau a Dadansoddiadau Presgripsiynu (SPIRA).

Mae'r dangosfwrdd hefyd yn cefnogi’r broses o weithredu canllawiau rheoli a phresgripsiynu diweddar ar gyfer Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) ac Asthma, a gymeradwywyd gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). Yn 2021, diweddarwyd y canllawiau hyn i annog ystyriaeth o Gynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr argymhelliad y rhoddir blaenoriaeth i bresgripsiynu Anadlyddion Powdr Sych (DPIs) yn hytrach nag Anadlyddion Dos Mesuredig (MDIs) o ganlyniad i’w heffaith sylweddol lai ar yr amgylchedd.

Mae'r dangosfwrdd yn cefnogi’r broses o weithredu'r argymhelliad hwn drwy gynnal gwaith monitro ledled Cymru, a dangos cynnydd o ran lleihau'r defnydd o MDIs o fwy na 70% i lai nag 20% erbyn 2025; y targed fel y'i nodir yn y Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio. Er mai ffocws y dangosfwrdd yw annog y defnydd o anadlyddion sydd â photensial cynhesu byd-eang isel, dewis cleifion yw'r ffactor pwysicaf o hyd.

Mae AWTTC yn rhagweld y bydd y dangosfwrdd yn helpu i lywio sgwrs rhwng ymarferwyr a chleifion ynghylch ôl troed carbon anadlyddion a chymorth, lle y bo'n briodol, i newid i anadlyddion amgen.

Dilynwch AWTTC: