Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC ac AWMSG yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol Clefydau Prin

Mae Diwrnod Rhyngwladol Clefydau Prin yn cael ei gynnal ar 28 Chwefror i godi ymwybyddiaeth o’r dros 7,000 o glefydau prin +sy’n effeithio ar dros 300 miliwn o bobl yn fyd-eang.

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn gweithio i sicrhau bod pobl â chlefyd prin sy’n byw yng Nghymru yn cael yr un cyfle i gael mynediad at feddyginiaethau â chleifion eraill.

Mae proses arfarnu AWMSG yn caniatáu cam ychwanegol ar gyfer dod â chleifion, gofalwyr, grwpiau cymorth cleifion a chlinigwyr ynghyd i drafod sut y gall meddyginiaeth effeithio ar ansawdd bywyd person a thrafod pa effaith y gallai hyn ei chael ar deulu neu ofalwyr y claf.

Mae prinder clefyd yn debygol o effeithio ar faint o dystiolaeth sydd ar gael i ategu penderfyniad, ac mae cost y feddyginiaeth fel arfer yn uchel iawn: mae llawer mwy o ansicrwydd.

Felly, mae'n bwysig iawn casglu cymaint o wybodaeth ychwanegol â phosibl o safbwynt y claf a'r clinigwr. O dan yr amgylchiadau hyn, mae gwneuthurwr y feddyginiaeth yn cael cyfle i ofyn am gyfarfod gyda’r Grŵp Cynnwys Clinigwyr a Chleifion a bydd adroddiad y cyfarfod hwn yn helpu i lywio barn ehangach AWMSG ar werth meddyginiaeth.

Gallwch ddarllen mwy o'r wefan hon ar broses arfarnu meddyginiaeth AWMSG a pham mae barn cleifion yn rhan bwysig o'r broses arfarnu.

Dilynwch AWTTC: