Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru

Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad cyflym a theg at feddyginiaethau. Mae pedair proses i gymeradwyo meddyginiaethau i’w defnyddio yn GIG Cymru. Mae ein dogfen Llwybrau mynediad at feddyginiaethau yn GIG Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Bydd nifer o newidiadau i broses Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer asesu meddyginiaethau i'w defnyddio yn GIG Cymru yn cael eu gweithredu o 1 Ionawr 2025. Mae hyn yn berthnasol i asesu meddyginiaethau trwyddedig a'r rhai sydd i'w defnyddio’n all-drwydded. Am fwy o wybodaeth gweler ein stori newyddion: Proses asesu meddyginiaethau AWMSG wedi'i diweddaru i'w lansio ym mis Ionawr 2025

Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn pan fydd y broses yn mynd yn fyw ar 1 Ionawr 2025. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni newydd ar gyfer y diwydiant fferyllol ac i glinigwyr a sefydliadau cleifion gyflwyno meddyginiaethau i’w hystyried i’w hasesu. Yn y cyfamser, a fyddech cystal ag anfon unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â chyflwyniadau ar gyfer gwerthusiad meddyginiaeth atom yn AWTTC@wales.nhs.uk

 

Mae ein fideo yn crynhoi’r gwahanol ffyrdd y mae meddyginiaethau ar gael yng Nghymru.