Neidio i'r prif gynnwy

Awgrymu meddyginiaeth i gael ei hystyried ar gyfer proses Meddyginiaethau Cymru'n Un

Rydym yn ystyried pob meddyginiaeth yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt ac ymgynghorir ag arbenigwyr clinigol i asesu angen clinigol a pha mor addas ydynt ar gyfer proses Meddyginiaethau Cymru’n Un. Pwyllgor Llywio Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn ag a ddylai’r feddyginiaeth symud ymlaen ar gyfer penderfyniad Cymru’n Un.

Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer meddyginiaethau i’w hystyried drwy broses Meddyginiaethau Cymru’n Un gan baneli Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), clinigwyr (yn ddelfrydol drwy rwydweithiau clinigol), prif fferyllwyr, fferyllwyr cyffurlyfr neu bwyllgorau meddyginiaethau a therapiwteg.

Mae’r broses yn cael ei llywio gan angen clinigol nas diwallwyd yn cael ei nodi gan y gwasanaeth ac felly ni allwn dderbyn ceisiadau gan gwmnïau fferyllol nac aelodau’r cyhoedd. I gyflwyno cais i feddyginiaeth gael ei hystyried ar gyfer proses Cymru’n Un, llenwch, ffurflen gais meddyginiaeth.

Gweler tudalen proses Meddyginiaethau Cymru’n Un am ragor o fanylion am broses Cymru’n Un gan gynnwys y rhaglen waith bresennol a rhestr o feddyginiaethau nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i’w cynnwys.

Dilynwch AWTTC: