Proses am ddim Cymru gyfan

Yn absenoldeb, neu tra'n aros i gyhoeddi cyngor ar yr asesiad technoleg iechyd, efallai y bydd rhai cwmnïau fferyllol yn dymuno cynnig cytundeb cyflenwi meddyginiaethau am ddim (FOC) i GIG Cymru i alluogi cleifion a chlinigwyr i gael mynediad at feddyginiaeth benodol heb unrhyw gost.

Diweddarwyd y broses FOC a'r canllawiau cysylltiedig ym mis Awst 2026, yn dilyn ymgynghori â'r diwydiant fferyllol a rhanddeiliaid GIG Cymru.

Mae'r broses newydd yn mabwysiadu dull cydweithredol rhwng AWTTC, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Uned Gwerth Meddyginiaethau (MVU), Grŵp Cynllun Trefniadau Masnachol Cymru (CASWG), pob bwrdd iechyd GIG Cymru, ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Mae'r dogfennau isod yn rhoi trosolwg o'r broses FOC newydd, y ffurflen gais ar gyfer cwmnïau, a gwybodaeth ddefnyddiol i gwmnïau fferyllol a rhanddeiliaid GIG Cymru.

Cysylltwch ag AWTTC@wales.nhs.uk i gael rhagor o wybodaeth am broses FOC Cymru gyfan.

Cafodd y ddogfennaeth FOC Cymru Gyfan wedi'i diweddaru ei llywio gan ddogfennaeth cynllun prisio am ddim Caffael Cenedlaethol GIG yr Alban, gyda diolch.