Ni fydd AWMSG bellach yn arfarnu meddyginiaeth fel mater o drefn sydd â mân estyniad i drwydded ar gyfer trin plant a phobl ifanc (hyd at 18 oed), lle derbynnir y feddyginiaeth i'w defnyddio gan AWMSG neu NICE ar gyfer yr un arwydd yn y boblogaeth sy'n oedolion.
O dan yr amgylchiadau hyn, dylai Byrddau Iechyd barhau i ychwanegu estyniadau i drwyddedau pediatrig at eu llyfr fformiwlâu. Nod y diweddariad hwn i broses AWMSG yw gwella mynediad at feddyginiaethau i blant, gan sicrhau y gallant fod ar gael cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl a'i fod yn cyd-fynd â NHS England ac NHS Scotland.
Ni fydd AWMSG bellach yn disgwyl derbyn cyflwyniad fel mater o drefn ar gyfer mân estyniad i drwydded bediatrig; fodd bynnag, pe bai'r angen yn codi (megis annhegwch o ran mynediad yng Nghymru, neu ansicrwydd yn y sail dystiolaeth), yna mae AWMSG yn cadw'r hawl i arfarnu meddyginiaeth lle mae angen clinigol clir.